Rydych chi’n mynd i wylio ffilm, ond yn gynta, dyma ychydig o help os ydych chi eisiau help.
HelpGeirfa | |
cyflwynydd | presenter |
canolfan | centre |
cyfarfod â = cwrdd â | to meet |
dangos | to show |
pethau | things |
byd natur | nature, wildlife |
cynllunio | to design |
Person | Sgript |
Helo ’na. Croeso i raglen arall o “Gwaith”. Heddiw, dw i’n siarad â Rhys. | |
Cyflwynydd: | Beth ydy’ch gwaith chi? |
Rhys: | Dw i’n gweithio mewn canolfan beicio mynydd. |
Cyflwynydd: | Ydych chi’n mwynhau’r gwaith? |
Rhys:
|
Ydw, mae’n hwyl ... ac mae’n gyffrous achos dw i’n hoffi gweithio tu allan a dw i’n hoffi cyfarfod â phobl. |
Cyflwynydd: | Beth ydych chi’n wneud yn y gwaith? |
Rhys: | Dw i’n siarad â’r bobl ... |
Cyflwynydd: | Yn Gymraeg neu yn Saesneg? |
Rhys: | Yn Gymraeg ac yn Saesneg ... Dw i’n helpu pobl gyda’u beiciau ... |
Cyflwynydd: | Ydych chi’n mynd allan i feicio? |
Rhys:
|
Ydw, dw i’n beicio gyda grwpiau ... . |
Rhys: | Dw i’n siarad am fyd natur weithiau. Dw i’n siarad gyda grwpiau Cymraeg a Saesneg. |
Cyflwynydd: | Rydych chi’n gweithio tu allan, felly. |
Rhys: | Ydw, ond dw i’n gweithio yn y swyddfa hefyd. |
Cyflwynydd: | O? Beth ydych chi’n wneud? |
Rhys:
|
Dw i’n ateb y ffôn – yn Gymraeg a Saesneg. Dw i’n gwneud taflenni am y ganolfan beicio mynydd .... |
Cyflwynydd: | Yn Gymraeg neu Saesneg? |
Rhys:
|
Yn Gymraeg a Saesneg. Rhaid cael taflenni Cymraeg a Saesneg achos mae rhai pobl yn hoffi darllen yn Gymraeg ac mae rhai pobl yn hoffi darllen yn Saesneg. |
Cyflwynydd: | Diddorol! Beth arall ydych chi’n wneud? |
Rhys: | Dw i’n helpu i gynllunio traciau newydd ... |
Cyflwynydd: | Cynllunio traciau newydd? Bobl bach! Cyffrous! |
Rhys: | Ydy – mae’n gyffrous iawn. Dw i’n hoffi cynllunio traciau newydd. |
Cyflwynydd: | Oes caffi yn y ganolfan? |
Rhys:
|
Oes ... ac weithiau ... dw i’n helpu yn y caffi hefyd - os ydyn ni’n brysur. Mae’r bwyd yn dda iawn yma.
Beth am goffi bach nawr? |
Cyflwynydd: | Syniad da. Hwyl fawr, bawb. |