Dw i yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn – ac mae’n WYCH!
Daliais i’r bws am hanner awr wedi wyth y bore yma. Teithion ni i fyny o Aberaeron, drwy Aberystwyth a Machynlleth a stopion ni ym Machynlleth am hanner awr.
Mae’r gwersyll yn anhygoel - mae e ar lan llyn ac rydyn ni’n mynd i ganŵio y prynhawn yma. Mae llawer o bethau i wneud yma fel dringo, canŵio, caiacio a mwy. Dw i’n edrych ymlaen.
Rhaid i fi fynd! Dw i’n mynd i ysgrifennu mwy heno.
Dyma lincs i chi os ydych chi eisiau gweld ble dw i’n aros :
http://www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/glan-llyn/cyfleusterau/
http://www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/glan-llyn/pethau-iw-wneud/gweithgareddau/
Helo, bawb.
Dw i yng Ngwersyll yr Urdd, Caerdydd.
Daliais i’r bws am naw o’r gloch y bore yma. Teithion ni i lawr o Ruthun, drwy Amwythig, drwy Henffordd ac yna aethon ni i’r Pwll Mawr ar y ffordd. Roedd o’n anhygoel! Aethon ni i lawr ... i lawr ... i lawr ... o dan y ddaear i weld ble roedd y glowyr yn gweithio. Anhygoel! Edrychwch ar:
http://www.amgueddfacymru.ac.uk/bigpit/
Mae gwersyll yr Urdd yn wych. Mae e yng Nghaerdydd – yn y ddinas, wrth y bae – tu ôl i Ganolfan y Mileniwm.
Heno, rydyn ni’n mynd i sglefrio iâ yn y ddinas ac yfory rydyn ni’n mynd i weld Stadiwm y Principality ac rydyn ni’n mynd o gwmpas y Bae. Dw i’n edrych ymlaen.
Amser te – rhaid i mi fynd.
Darllenwch y blog yfory os ydych chi eisiau gwybod mwy!
Dyma lincs i chi os ydych chi eisiau gwybod mwy:
http://www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/caerdydd/cyfleusterau/.
http://www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/caerdydd/pethau-iw-wneud/atyniadau/
Geirfa | |
gwersyll | camp |
dal | to catch |
teithio | to travel |
anhygoel | incredible, awesome |
ar lan | on the shore of |
llyn | lake |
edrych ymlaen | to look forward |
Amwythig | Shreswbury |
Henffordd | Hereford |
Pwll Mawr | Big Pit |
pethau | things |
y ddaear | the ground |
glowyr | coalminers |
dinas | city |
bae | bay |
sglefrio iâ | ice skating |