Cymraeg - hwyl, gŵyl a gwaith

DJ o Gymru

“Mae Cymraeg yn bwysig i fi,” meddai Huw Stephens.

Proffil
Proffil

Enw: Huw Stephens

Byw: Llundain 

Dod o: Caerdydd

Ysgol: Ysgol Glantaf

Gwaith: Troellwr: Radio 1, BBC Radio Cymru, BBC a Channel 4, gŵyl Glastonbury, gigs.

Cyflwyno ar S4C weithiau.

Gigs

Pan oedd Huw yn 15 oed, roedd e’n mynd i gigs yng Nghaerdydd ac yn yr Eisteddfod. Clywodd e lawer o fandiau Cymraeg a bandiau o Gymru fel Catatonia, Super Furry Animals, y Manic Street Preachers a’r Stereophonics. Roedd e wrth ei fodd. “Dw i’n lwcus. Achos dw i’n gallu siarad dwy iaith, dw i’n gallu mwynhau cerddoriaeth mewn dwy iaith,” meddai.

 

Dechrau gweithio

Pan oedd e’n ifanc, dechreuodd Huw weithio ar fore dydd Sadwrn. Roedd e’n ateb y ffôn yn y BBC.

Yna, dechreuodd e weithio ar radio ysbyty yng Nghaerdydd.

Yna, dechreuodd e weithio ar Radio 1 – roedd gallu siarad dwy iaith yn help i gael y gwaith.

 

Agor drysau

“Mae’r iaith Gymraeg yn agor drysau i chi,” meddai Huw.

“Dw i’n teimlo’n drist pan mae pobl yn dweud ‘Dydy fy Nghymraeg i ddim yn ddigon da.’ Mae’ch Cymraeg chi’n ddigon da - wrth gwrs. Jyst trïwch! Defnyddiwch eiriau Saesneg os dydych chi ddim yn gwybod y geiriau Cymraeg!

 

“I fi, mae’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn.”

 

Ydych chi eisiau darllen mwy? Ewch i: http://cymraeg.llyw.cymru/More/myexperience/Enjoy/?lang=en

Help
Geirfa
meddai said
troellwr DJ
gŵyl festival
cyflwyno to present
wrth ei fodd delighted
gallu can
pan when
ifanc young
ysbyty hospital
drysau doors
digon da good enough
geiriau words

Huw Stephens gan Neil Thompson; fe'u defnyddir o dan CC BY