



Lluniau: Ben Lovell
| Enw: | Ben Lovell |
| Byw: | Llanelwy |
| Oed: | 22 |
| Diddordebau: | Cadw’n heini, chwaraeon |
| Prif ddiddordeb: | Rasio i lawr bryn ar gefn beic |
|
|
2015: 1af yng Nghymru; 7fed ym Mhrydain 2012: 1af yng Nghymru |
Beth ydy rasio i lawr bryn ar gefn beic?
Wel, rhaid rasio i lawr bryn ar gefn beic?. Mewn ras, mae pawb yn rasio ar eu pen eu hunain. Y person i orffen y cwrs yn yr amser cyflymaf sy’n ennill.
Disgrifiwch rasio i lawr bryn ar gefn beic.
Hwyl! Cyffrous! Cyflym – tua 60km – 70 km yr awr
Disgrifiwch drac.
Serth! Garw! Cerrig, coed a mwd.
Ydy o’n beryglus?
Ydy – yn beryglus iawn. Dw i wedi torri fy ngarddwrn a fy nghefn.
Beth ydych chi’n gwisgo?
Dw i’n gwisgo helmed dros fy wyneb, gogls, padiau ar y pengliniau, padiau ar y penelinoedd a back protector.
Beth ydy’r categorïau?
Mae categori o dan 12 oed, o dan 14 oed, o dan 16 oed ac o dan 18 oed.
Ar ôl 18 oed, mae’r categorïau yma:
Elite – dyna ble dw i’n rasio
Arbenigwr (Expert)
Meistr (Master)
Uwch (Senior)
Vectrin ar gyfer pobl dros 40 oed.
Oes llawer o draciau yng Nghymru?
Oes, mae llawer o draciau da iawn yng Nghymru, e.e. Cwm Carn a Bike Park Wales yn Ne Cymru, Antur Stiniog, Revolution Bike Park a Llangollen yng Ngogledd Cymru. Mae traciau ardderchog yng Nghymru achos mae llawer o fynyddoedd yma.
Pa un ydy’r trac mwya anodd?
Fort William, yn yr Alban. Dyna’r trac mwya anodd.
Sut ydych chi’n paratoi?
Dw i’n mynd allan ar y beic bob wythnos. Dw i'n beicio i lawr bryn bob penwythnos. Dw i’n mynd i’r ganolfan hamdden i godi pwysau achos rhaid bod yn heini iawn i rasio lawr bryn.
Beth ydych chi’n bwyta i baratoi ar gyfer ras?
Llawer o garbohydradau, e.e. pasta, a dw i’n bwyta bananas a jelly babies ar ddiwrnod ras.
Ydy’r beic yn debyg i feic cyffredin?
Rhaid cael beic cryf – llawer cryfach na beic cyffredin. Rhaid cael teiars cryfach – mae gwahanol fathau o deiars a rhaid penderfynu ar y teiars ar y diwrnod. Dw i’n cario llawer o deiars yn y fan.
Pa fath o berson sy’n dda am rasio i lawr bryn ar gefn beic?
Person heini – rhaid bod yn heini iawn. Os dydych chi ddim yn heini, dydych chi ddim yn mynd i orffen y ras. Os dydych chi ddim yn heini, mae’ch ymennydd chi’n araf ac rydych chi’n gwneud camgymeriadau.
Pryd ydych chi’n rasio?
Rhwng mis Mawrth a mis Hydref.
Geirfa| Llanelwy | St Asaph |
| rasio i lawr bryn ar gefn beic | downhill mountain biking |
| safle | position |
| ar eu pen eu hunain | by themselves |
| yr amser cyflyma | the fastest time |
| serth | steep |
| garw | rough |
| cerrig | stones |
| garddwrn | wrist |
| cefn | back |
| pengliniau | knees |
| penelinoedd | elbows |
| mwya anodd | most difficult |
| codi | to lift |
| pwysau | weights |
| cyffredin | ordinary |
| cryf | strong |
| cryfach | stronger |
| ymennydd | brain |
| camgymeriadau | mistakes |
| mwya cyflym / cyflyma | fastest |
| mwya anodd / anodda | most difficult |