Rydych chi’n mynd i wrando ar sgwrs rhwng Chris a’i dad.
Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.
Help| Geirfa | |
| wedi torri | broken |
| ar y we | on the internet |
| lawrlwytho | to download |
| newydd sbon | brand new |
| ysgafn | light |
| clir | clear |
| digon o | enough |
| cof | memory |
| benthyg | borrow |
| Chris: | Dad, mae fy ffôn i wedi torri. |
| Dad: | O? |
| Chris: | Rhaid i fi gael ffôn newydd. |
| Dad: | Pam? |
|
Chris: |
Dw i eisiau tecstio ... a mynd ar y we ... a siarad â ffrindiau ... a chwarae gemau ... a lawrlwytho apiau a ... |
| Dad: | Iawn. Dyma ti. |
| Chris: | Beth ydy hwn? |
| Dad: | Fy hen ffôn i. |
| Chris: | Ond dw i eisiau ffôn newydd sbon. Edrycha. |
| Dad: | Beth ydy hwn? |
| Chris: | Llun ffôn – o’r we. Mae’n wych. |
| Dad: | O? |
| Chris: | Mae’n ddu. |
| Dad: | Neis iawn. |
| Chris: | Mae’n ysgafn. |
| Dad: | Neis iawn. |
| Chris: | Mae’n smart. |
| Dad: | Neis iawn. |
|
Chris:
|
Edrycha, Dad – mae’r sgrin yn glir ... mae’n bosib mynd ar y we ... a chwarae gemau ... ac mae’r camera’n wych – mae’n bosib gwneud fideos. Mae digon o gof i apiau ... a lluniau ... a ... |
| Dad: | Faint ydy e? |
| Chris: | Dau ddeg pum punt y mis. |
| Dad: | Faint?! |
| Chris: | Dau ddeg pum punt y mis. |
| Dad: | Bobl bach! Mae e’n ddrud. |
| Chris: | Ond mae e’n ffôn da, Dad. |
| Dad: | O ble wyt ti’n mynd i gael arian? |
| Chris: | Ga i fenthyg arian, os gwelwch yn dda? |
| Dad: | Na chei – mae’n ddrwg gen i. |
| Chris: | Ond o ble dw i’n mynd i gael arian i brynu’r ffôn? |