Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.
HelpGeirfa | |
ffasiynol | fashionable |
pris | price |
yn gyntaf | firstly |
llachar | bright |
yn ail | secondly |
patrwm | pattern |
gwast | waist |
yn gyfforddus | comfortable |
yn drydydd | thirdly |
dim ond | only |
unwaith eto | once again |
Cyflwynydd:
|
Helo ... Croeso i sianel “Bargen, Bargen, Bargen!” Heddiw, rydyn ni’n gwerthu dillad ffasiynol am bris da – pris da iawn. “Bargen, Bargen, Bargen”. |
Cyflwynydd:
|
Yn gyntaf ... crys T hyfryd. Mae’r crys T yma’n las – ond mae’n bosib cael y crys T yma mewn lliwiau eraill hefyd – pinc ... oren ... gwyrdd ... glas ... porffor a du. Mae’n bosib prynu crys T ... bach, ... canolig neu ... fawr. A’r pris: deg punt. |
Cyflwynydd:
|
Yn ail, ... siorts – ... i fynd gyda’r crys T hyfryd. Mae’r siorts yn binc, yn ddu ac yn wyn ... Edrychwch - elastig yn y wast ... felly maen nhw’n gyfforddus iawn. ... Maen nhw’n smart iawn hefyd. Mae’n bosib prynu siorts bach, ... canolig neu ... fawr. A’r pris: ... dau ddeg pum punt. |
Cyflwynydd:
|
Yn drydydd, ... dyma siaced ... Mae’r siaced yn felyn ond mae’n bosib prynu siaced oren ... pinc ... neu wyrdd hefyd. Mae’n bosib prynu siaced fach ... ganolig ... neu ... fawr. A’r pris: ... pedwar deg saith punt. ... Dim ond pedwar deg saith punt! ... Bargen! |
Cyflwynydd:
|
Edrychwch eto: ... crys T hyfryd – ... deg punt. Os ydych chi’n prynu’r tair eitem, ... mae disgownt o un deg dau y cant. Ie – disgownt o un deg dau y cant. |
Cyflwynydd:
|
Mae’r dillad yma’n gwneud set berffaith – edrychwch ... Hyfryd! |