Rydych chi’n mynd i wrando ar sgwrs rhwng Chris a’i dad.
Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.
HelpGeirfa | |
wedi torri | broken |
ar y we | on the internet |
lawrlwytho | to download |
newydd sbon | brand new |
ysgafn | light |
clir | clear |
digon o | enough |
cof | memory |
benthyg | borrow |
Chris: | Dad, mae fy ffôn i wedi torri. |
Dad: | O? |
Chris: | Rhaid i fi gael ffôn newydd. |
Dad: | Pam? |
Chris: |
Dw i eisiau tecstio ... a mynd ar y we ... a siarad â ffrindiau ... a chwarae gemau ... a lawrlwytho apiau a ... |
Dad: | Iawn. Dyma ti. |
Chris: | Beth ydy hwn? |
Dad: | Fy hen ffôn i. |
Chris: | Ond dw i eisiau ffôn newydd sbon. Edrycha. |
Dad: | Beth ydy hwn? |
Chris: | Llun ffôn – o’r we. Mae’n wych. |
Dad: | O? |
Chris: | Mae’n ddu. |
Dad: | Neis iawn. |
Chris: | Mae’n ysgafn. |
Dad: | Neis iawn. |
Chris: | Mae’n smart. |
Dad: | Neis iawn. |
Chris:
|
Edrycha, Dad – mae’r sgrin yn glir ... mae’n bosib mynd ar y we ... a chwarae gemau ... ac mae’r camera’n wych – mae’n bosib gwneud fideos. Mae digon o gof i apiau ... a lluniau ... a ... |
Dad: | Faint ydy e? |
Chris: | Dau ddeg pum punt y mis. |
Dad: | Faint?! |
Chris: | Dau ddeg pum punt y mis. |
Dad: | Bobl bach! Mae e’n ddrud. |
Chris: | Ond mae e’n ffôn da, Dad. |
Dad: | O ble wyt ti’n mynd i gael arian? |
Chris: | Ga i fenthyg arian, os gwelwch yn dda? |
Dad: | Na chei – mae’n ddrwg gen i. |
Chris: | Ond o ble dw i’n mynd i gael arian i brynu’r ffôn? |