Dyma ddau le ffantasi yng Nghymru.

Pentref Eidalaidd ydy pentref Portmeirion yng ngogledd-orllewin Cymru.
Yno, mae tai lliwgar, siopau diddorol, castell, tai bwyta, gerddi hyfryd, traeth a llawer mwy.
Syr Clough Ellis Williams adeiladodd y pentref. Roedd e wedi bod yn teithio yn yr Eidal.

Mae Castell Coch yn ne-ddwyrain Cymru, ger Caerdydd.
Castell coch ydy e – mae e’n edrych yn goch tu allan. Mae’r castell yn ddiddorol iawn ac mae ystafelloedd hardd ynddo fe. Mae’r waliau’n arbennig o hardd. Mae coedwig tu allan.
Mae’r castell yn eitha modern - castell Fictoraidd ydy e. Cynlluniodd William Burges y castell i John Patrick Crichton-Stuart, 3ydd marcwis Bute.
| gogledd-orllewin | north-west |
| Eidalaidd | Italian |
| tai | houses |
| gerddi | gardens |
| adeiladu | (to) build |
| roedd e wedi bod | he had been |
| de-ddwyrain | south-east |
| ynddo fe | in it |
| coedwig | woods, forest |
| cynllunio | (to) design |
| marcwis | marquess |