Mae ffilmiau ffantasi’n boblogaidd iawn heddiw. Beth ydy barn pobl ifanc, tybed?
Dw i wrth fy modd gyda ffilmiau ffantasi achos maen nhw’n wahanol i ffilmiau eraill. Dw i’n hoff iawn o dair ffilm The Lord of the Rings achos mae’r plot yn wych, mae’r actio’n ardderchog, mae’r effeithiau arbennig yn anhygoel ac mae’r ffilmio’n hyfryd. Ardderchog heb os nac oni bai!
Dw i’n cytuno gyda Josh cant y cant ond mae ffilmiau Harry Potter yn ardderchog hefyd. Mae’r plot yn gyffrous – y da yn erbyn y drwg. Mae’r effeithiau arbennig yn anhygoel ac mae’r gerddoriaeth yn wych. Mae’r ffilmio’n anhygoel hefyd. Dyma fy hoff ffilmiau i.
Dw i wrth fy modd gyda’r ffilmiau yna hefyd a hoffwn i weld Fantastic Beasts and Where to Find Them. Mae’n ffilm antur ffantasi gan J. K. Rowling ac mae Eddie Redmayne, Katherine Waterston a Colin Farrell yn y ffilm. Mae’n edrych yn dda iawn.
Dw i’n cytuno gyda Josh a Harri. Mae’r ffilmiau ffantasi yna’n arbennig iawn ond dw i’n hoffi Avatar hefyd achos mae popeth mor hardd yn y ffilm yna. Mae’r lliwiau, yn arbennig, yn wych. Mae’r ffilm yn wahanol iawn i ffilmiau Harry Potter a The Lord of the Rings ond mae’n ardderchog.
Mae’n well gen i The Hobbit. Mae’r cymeriadau’n ddiddorol iawn ac mae’r plot yn gyffrous. Mae popeth yn y ffilm yn wahanol iawn i fywyd pob dydd ac mae’n braf dianc i fyd ffantasi weithiau.
poblogaidd | popular |
tybed | I wonder |
effeithiau arbennig | special effects |
cant y cant | a hundred percent |
yn erbyn | against |
antur | adventure |
y ffilm yna | that film |
cymeriadau | characters |
braidd yn wirion | rather silly |
bywyd | life |
pob dydd | every day |
dianc | (to) escape |
byd | world |