Dyma hen, hen stori Gymraeg.
Mae'r anifeiliaid yma yn y stori:
ysgyfarnog
milgi
pysgodyn
dyfrgi
aderyn
hebog
iâr
Roedd Ceridwen, y wrach, yn byw ger y Bala. Roedd hi’n byw gyda Tegid Foel, ei gŵr hi, Creirfyw, ei merch hi, a Morfran, ei mab hi.
Roedd Creirfyw yn hardd iawn, iawn ond roedd Morfran yn hyll iawn, iawn. Roedd Ceridwen eisiau helpu Morfran.
Gwnaeth hi ddiod arbennig i Morfran – diod hud. Roedd Gwion Bach, y gwas, yn helpu gyda’r ddiod. Un diwrnod, pan oedd e’n helpu, llyncodd e dipyn bach o’r ddiod. Roedd Ceridwen yn wyllt gacwn a rhedodd hi ar ôl Gwion Bach.
Roedd y ddiod yn ddiod hud, felly troiodd Gwion Bach yn ysgyfarnog a rhedodd e’n gyflym oddi wrth Ceridwen. Ond roedd Ceridwen yn wrach. Felly troiodd hi’n filgi cyflym i redeg ar ôl Gwion.
Rhedon nhw a rhedon nhw nes ddod at afon. Troiodd Gwion yn bysgodyn a nofiodd e yn y dŵr. Ond troiodd Ceridwen yn ddyfrgi a nofiodd hi ar ôl Gwion.
Yn sydyn, neidiodd Gwion allan o’r afon. Troiodd e’n aderyn a hedfanodd e. Ond troiodd Ceridwen yn hebog, a hedfanodd hi ar ôl Gwion.
Roedd Ceridwen yn hedfan yn gyflym iawn, iawn. Troiodd Gwion yn ronyn gwenith a syrthiodd e i ganol llawer o wenith ar y llawr. “Gwych!” roedd e’n meddwl, “Dw i’n saff!” Ond troiodd Ceridwen yn iâr a bwytodd hi’r gwenith. Bwytodd hi Gwion.
Naw mis wedyn, cafodd Ceridwen fabi bach – Gwion Bach. Roedd Ceridwen yn wyllt gacwn gyda Gwion ond roedd e’n fabi hardd. Doedd Ceridwen ddim eisiau lladd Gwion. Rhoddodd hi fe mewn bag o ledr a’i daflu fe i’r môr yn Abermaw.
Ffeindiodd dyn o’r enw Gwyddno Garanhir y bag a helpodd e’r babi bach hardd. Rhoddodd e enw arall i’r babi - Taliesin. Tyfodd Taliesin yn fachgen clyfar iawn. Tyfodd e i fod yn fardd pwysig.
gwrach | witch |
gŵr | husband |
merch | daughter |
mab | son |
hyll | ugly |
diod | drink |
hud | magic |
gwas | servant |
llyncu | (to) swallow |
tipyn bach | a little |
yn wyllt gacwn | furious |
troiodd | he/she turned (troi) |
oddi wrth | from |
nes | until |
hedfan | (to) fly |
gronyn | grain |
gwenith | wheat |
wedyn | afterwards |
lladd | (to) kill |
lledr | leather |
taflu | (to) throw |
yn ôl | according to |
bardd | poet |