Rhifyn 16 - Ffantasi

Tŷ’r Hobit

Ydych chi wedi gweld y ffilm The Hobbit?

Ydych chi wedi darllen y nofel The Hobbit?

Ydych chi wedi chwarae’r gêm cyfrifiadur The Hobbit?

 

Ydych chi’n cofio tŷ’r hobit?


Llun 1


Llun 2

Llun 3

Llun 4

Ffantasi ydy The Hobbit - a ffantasi ydy tŷ’r hobit yn y lluniau uchod.

Ond nid ffantasi ydy'r Tŷ Hobit yma.

 

Llun 5

Llun 6

Tŷ’r Hobit

Beth: Tŷ’r Hobit

Ble: Sir Benfro

Pwy: Mae Simon Dale a'i deulu'n byw yn y tŷ. Simon adeiladodd y tŷ.

Pa fath o dŷ: Tŷ "gwyrdd" ydy e, e.e.

  • Mae'r tŷ "yn y bryn" felly dydy e ddim yn sbwylio'r ardal ac mae e'n gynnes.
  • Mae Simon wedi ailgylchu pethau yn y tŷ, e.e. ffenestri, ceblau ac ati.
  • Mae paneli haul ar y tŷ.
  • Mae toiled compost yn y tŷ.
  • Mae'r dŵr yn dod o ffynnon.
  • Mae gardd lle maen nhw'n tyfu bwyd.

Pris adeiladu: Tua £3,000

Barn: Mae'n glyd. Mae'n hardd.

Os ydych chi eisiau gweld lluniau o'r tŷ hobit, ewch i:

http://inhabitat.com/extraordinary-off-grid-hobbit-home-in-wales-only-cost-3000-to-build/olympus-digital-camera-59

http://www.simondale.net/hobbit.htm

Geirfa
   
uchod above
nid not
adeiladodd built
bryn hill
sbwylio (to) spoil
ardal area
ailgylchu (to) recycle
ac ati etc.
ceblau cables
ffynnon well
clyd cosy

Llun CC