Rydych chi'n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.
Geirfaifanc | young |
clyweliadau | auditions |
mynyddoedd | mountains |
ennill | (to) win |
cystadleuaeth | competition |
cariad | boyfriend |
golygus | handsome |
gwestai | hotels |
gawn ni weld | We'll see |
Cyflwynydd: | Noswaith dda o'r stiwdio. |
Cyflwynydd: | Mae grŵp arall o bobl ifanc yn aros i ganu yn y clyweliadau ar gyfer "Cana i mi". |
Cyflwynydd: | Wel, dyma'r person nesaf i ganu. Beth am siarad gyda hi? |
Cyflwynydd: | Iawn ... pwy wyt ti? |
Ffion: | Ffion Jones ydw i. |
Cyflwynydd: | O ble wyt ti'n dod, Ffion? |
Ffion: | Dw i'n dod o Landudno. |
Cyflwynydd: | Beth ydy dy waith di? |
Ffion: | Dw i'n nyrs. |
Cyflwynydd: | Beth ydy dy hobïau di? |
Ffion: | Wel, dw i'n hoffi cerdded a beicio. |
Cyflwynydd: | Cerdded a beicio? |
Ffion: | Dw i'n hoffi cerdded a beicio yn y mynyddoedd. |
Cyflwynydd: | Hyfryd! |
Ffion: | A dw i'n hoffi canu, wrth gwrs. |
Cyflwynydd: | Pam wyt ti yma, Ffion? |
Ffion: | Achos dw i eisiau ennill y gystadleuaeth "Cana i mi". |
Cyflwynydd: | O? |
Ffion: | A dw i eisiau cael llawer o arian ... |
Cyflwynydd: | Llawer o arian? |
Ffion: | ... a dw i eisiau cael dillad smart ... |
Cyflwynydd: | Dillad smart? |
Ffion: | A dw i eisiau cael fila yn Sbaen ... a'r Eidal ... a Groeg ... |
Cyflwynydd: | Fila yn Sbaen ... a'r Eidal ... a Groeg ... |
Ffion: | ... a hoffwn i gael car mawr, cŵl ... |
Cyflwynydd: | Car mawr, cŵl? |
Ffion: | ... a hoffwn i gael cariad golygus. |
Cyflwynydd: | Hym hym! |
Ffion: | Cariad golygus ... a hoffwn i gael ci bach ciwt ... na, hoffwn i gael pedwar ci bach ciwt - pedwar bichon frise gyda dillad smart ... |
Cyflwynydd: | pedwar bichon frise? |
Ffion: | ... a hoffwn i aros mewn gwestai pum seren ym Mharis ... a Madrid ... a Milan ... |
Cyflwynydd: | Gwestai pum seren? |
Ffion: | ... a hoffwn i deithio'r byd ... a ... |
Cyflwynydd: | Iawn, Ffion - maen nhw'n barod. |
Ffion: | Diolch. |
Cyflwynydd: | Pob lwc! |
Ffion: | Pah! Diolch yn fawr. |
Cyflwynydd: | Wel? |
Ffion: | Wel? |
Cyflwynydd: | Wel, sut oedd y clyweliad? |
Ffion: | Grêt ... gwych ... ffantastig. |
Cyflwynydd: | O, da iawn. |
Ffion: | Roedd e'n wych! Dw i'n mynd i ennill ac yna bydda i'n gallu cael llawer o arian ... dillad smart ... fila yn Sbaen, yr Eidal a Groeg ... car mawr cŵl ... cariad golygus ... pedwar bichon frise ... aros mewn gwestai yn Ewrop ... a theithio'r byd. Hwyl fawr! |
Cyflwynydd: |
Hwyl fawr i ti, Ffion. Ydych chi eisiau gweld perfformiad Ffion? Dyma ni. |
Cyflwynydd: | Mmm? Llawer o arian? Dillad smart? Fila yn Sbaen, yr Eidal a Groeg? Car mawr, cŵl? Cariad golygus? Pedwar bichon frise? Aros mewn gwestai yn Ewrop? Teithio'r byd? Ennill y gystadleuaeth? Beth ydych chi'n feddwl? |