Dyma hen stori Gymraeg.
Mae'r anifeiliaid yma yn y stori:
mwyalch
carw
tylluan
eryr
eog
Roedd Culhwch eisiau priodi Olwen ond doedd tad Olwen ddim yn hapus.
“Rhaid i ti wneud tasgau,” dwedodd tad Olwen.
“Dim problem,” dwedodd Culhwch.
“Rhaid i ti wneud 40 tasg,” dwedodd tad Olwen.
“Dim problem,” atebodd Culhwch.
Un o’r tasgau oedd ffeindio Mabon fab Modron, ond roedd problem.
Ble oedd Mabon fab Modron?
Roedd y brenin Arthur eisiau helpu Culhwch ac felly aeth e a’i filwyr i chwilio am Mabon. Un o’r milwyr oedd Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd. Roedd e’n gallu siarad pob iaith ac roedd e’n gallu siarad â’r anifeiliaid hefyd.
Aeth y milwyr i ofyn am help yr anifeiliaid.
Yn gyntaf, aethon nhw i siarad â Mwyalch Cilgwri.
“Ble mae Mabon fab Modron?” gofynnodd Gwrhyr.
“Dw i’n hen iawn,” dwedodd Mwyalch Cilgwri. “Ond dw i ddim yn gwybod ble mae Mabon fab Modron. Dw i eisiau’ch helpu chi, felly dewch gyda fi i weld Carw Rhedynfre.”
Yna, aethon nhw i siarad â Carw Rhedynfre.
“Ble mae Mabon fab Modron?” gofynnodd Gwrhyr.
“Dw i’n hen iawn, iawn,” dwedodd Carw Rhedynfre. “Ond dw i ddim yn gwybod ble mae Mabon fab Modron. Dw i eisiau’ch helpu chi, felly dewch gyda fi i weld Tylluan Cwm Cowlyd.”
Yna, aethon nhw i siarad â Tylluan Cwm Cowlyd.
“Ble mae Mabon fab Modron?” gofynnodd Gwrhyr.
“Dw i’n hen iawn, iawn, iawn,” dwedodd Tylluan Cwm Cowlyd. “Ond dw i ddim yn gwybod ble mae Mabon fab Modron. Dw i eisiau’ch helpu chi, felly dewch gyda fi i weld Eryr Gwern Abwy.”
Aethon nhw i siarad ag Eryr Gwern Abwy.
“Ble mae Mabon fab Modron?” gofynnodd Gwrhyr.
“Dw i’n hen iawn, iawn, iawn, iawn,” dwedodd Eryr Gwern Abwy. “Ond dw i ddim yn gwybod ble mae Mabon fab Modron. Dw i eisiau’ch helpu chi, felly dewch gyda fi i weld Eog Llyn Llyw.”
Aethon nhw i siarad ag Eog Llyn Llyw.
“Ble mae Mabon fab Modron?” gofynnodd Gwrhyr.
“Dw i ddim yn siŵr,” dwedodd Eog Llyn Llyw. “Ond weithiau dw i’n nofio yn yr afon i fyny at waliau Caerloyw ac yno dw i’n gallu clywed sŵn ofnadwy. Dewch gyda fi.”
Felly, eisteddodd Gwrhyr a Cai ar gefn yr eog ac i ffwrdd â nhw i fyny’r afon.
Tu allan i’r wal, roedden nhw’n gallu clywed sŵn crio ofnadwy. “Helpwch fi! Helpwch fi!”
“Pwy wyt ti?” gofynnodd Gwrhyr.
“Mabon fab Modron ydw i.”
“Wyt ti’n gallu dod allan?”
“Nac ydw, dw i’n garcharor.”
Felly, aeth Cai a Gwrhyr i lawr yr afon ar gefn yr eog. Aethon nhw at y brenin Arthur a dweud, “Rhaid i ni helpu Mabon fab Modron. Mae e’n garcharor yng Nghaerloyw.”
Aeth Arthur a’i filwyr i helpu Mabon fab Modron ac felly roedd un o’r tasgau wedi gorffen.
Geirfapriodi | (to) marry |
brenin | king |
milwyr | soldiers |
roedd e'n gallu ... | he could ... |
pob | every |
iaith | language |
aeth | (he/she/it) went |
yn gyntaf | first |
aethon nhw | they went |
hen | old |
ar gefn | on the back of |
Caerloyw | Gloucester |
yno | there |
carcharor | prisoner |