Rydych chi'n mynd i wylio ffilm, ond cyn gwylio, dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.
Geirfa| Tuduraidd | Tudor |
| ffrog | dress |
| hir | long |
| gemau | jewellery |
| byd | world |
| o'r blaen | before |
| y Tuduriaid | the Tudors |
| cwrw | beer |
| brwydr | battle |
| ymladd | fighting |
| ceffylau | horses |
|
|
|
|
Aled: |
Esgusodwch fi. |
|
Merch: |
Ie. |
|
Aled: |
Dw i’n hoffi’r dillad. |
|
Merch: |
Diolch. Dw i’n hoffi’r dillad hefyd. Dw i'n hoffi'r teits coch. Maen nhw'n hyfryd. |
|
Aled: |
O … diolch yn fawr. Ble ydych chi’n mynd? |
|
Merch: |
Dw i’n mynd i’r Dydd Tuduraidd. |
|
Aled: |
A fi! Dw i’n mynd i’r Dydd Tuduraidd hefyd. Dyna pam dw i’n gwisgo teits! |
|
Merch: |
Wrth gwrs. Dyna pam dw i’n gwisgo ffrog hir a llawer o gemau. Dw i’n mynd i’r Dydd Tuduraidd yn y castell. |
|
Aled: |
Wel, rydych chi’n edrych yn smart iawn. |
|
Merch: |
Diolch yn fawr. Beth ydy’ch enw chi? |
|
Aled: |
Aled. Beth ydy’ch enw chi? |
|
Merch: |
Erin. |
|
Aled: |
Ble ydych chi’n byw? |
|
Merch: |
Dw i’n byw yn Llanelli. |
|
Aled: |
Wel, wel. Dw i’n byw yn Llanelli hefyd. |
|
Merch: |
O ble ydych chi’n dod? |
|
Aled: |
Dw i’n dod o Lanelli. |
|
Merch: |
Wel, wel. Dw i’n dod o Lanelli hefyd. Mae’r byd yn fach. |
|
Aled: |
Mae’r byd yn fach iawn! Ydych chi’n hoffi byw yn Llanelli? |
|
Merch: |
Ydw. Mae pwll nofio da iawn yno ac mae'r sinema yn wych. |
|
Aled: |
Pwll nofio … a sinema. Rydych chi’n hoffi nofio a gwylio ffilmiau, felly. |
|
Merch: |
Ydw. Beth ydych chi’n hoffi gwneud? |
|
Aled: |
Dw i’n hoffi nofio a gwylio ffilmiau hefyd – a dw i’n hoffi chwarae pêl-droed … |
|
Merch: |
… ac rydych chi’n hoffi gwisgo fel dyn Tuduraidd. |
|
Aled: |
Wel … ydw … a nac ydw. |
|
Merch: |
“Ydw” a “Nac ydw”? |
|
Aled: |
Dw i’n hoffi'r hanes – ond dw i ddim yn hoffi gwisgo'r teits! |
|
Merch: |
O, mae Dydd Tuduraidd yn hwyl – yn llawer o hwyl! |
|
Aled: |
Beth sy’n digwydd ar Ddydd Tuduraidd? |
|
Merch: |
Edrychwch. |
|
|
|
|
Merch: |
Mae pawb yn gwisgo dillad Tuduraidd – fel chi a fi. |
|
Aled: |
Smart iawn! |
|
Merch: |
Mae pawb yn byw fel y Tuduriaid am ddiwrnod. |
|
Aled: |
Byw fel y Tuduriaid? |
|
Merch: |
Wel, mae rhai merched yn helpu i baratoi bwyd. |
|
Aled: |
Pa fath o fwyd? |
|
Merch: |
Cig … a llysiau … a bara … a … cwrw. |
|
Aled: |
Blasus iawn. |
|
Merch: |
Weithiau mae brwydr. |
|
Aled: |
|
|
Merch: |
Ymladd. Edrychwch. |
|
Aled: |
|
|
Merch: |
Dim problem. Ydych chi’n hoffi ceffylau? |
|
Aled: |
Ydw, dw i’n hoffi ceffylau’n fawr. |
|
Merch: |
Gwych! |
|
Aled: |
Pam “Gwych!”? |
|
Merch: |
Wel, os ydych chi’n hoffi ceffylau, beth am jowstio? |
|
Aled: |
Jowstio – fi?! |
|
Merch: |
Ie, chi … dewch. |
|
Aled: |
Ond … |
|
Merch: |
Bydd e’n hwyl! Dewch gyda fi … |
|
Aled: |
Ond … |