Rhifyn 18 - Defnyddio Patrymau

Cofiwch eich mwgwd nwy

Cofiwch eich mwgwd nwy!

Os ydych chi'n mynd ar wyliau, beth ydych chi'n pacio yn eich ces?

Os ydych chi'n mynd ar drip, beth ydych chi'n pacio yn eich bag neu yn eich rycsac?

Ydych chi'n pacio mwgwd nwy?

Pan mae twristiaid yn mynd i Miyakejima, Japan, maen nhw'n pacio mwgwd nwy!

Ffeil ffeithiau - Miyakejima

Beth: ynys

Ble: 110 milltir i'r de-orllewin o Tokyo

Beth sy yno: mynydd Oyama

Pam mae twristiaid yn mynd yno: i wylio adar, i fwynhau'r ffynhonnau poeth, i weld yr ynys

 Mae'n swnio'n wych OND ...

... llosgfynydd ydy Mynydd Oyama!

Mynydd Oyama

  • Ffrwydrodd y mynydd yn y flwyddyn 2000.
  • Roedd rhaid i'r bobl fynd o'u cartrefi nhw ar yr ynys.
  • Aeth 3,600 o bobl i Tokyo i fyw.

Yna, yn 2005, aeth 2,800 o bobl adre i'r ynys ond roedd problem!

  • Roedd y cartrefi o dan lafa.
  • Roedd yr ysgolion o dan lafa.
  • Roedd y strydoedd o dan lafa.
  • Roedd y ceir o dan lafa.
  • Roedd y fforestydd wedi marw.
  • Roedd nwyon gwenwynig dros rannau o'r ynys.
  • Roedd rhaid gwisgo mwgwd nwy!

Heddiw ...

Heddiw, mae llawer o dwristiaid yn hoffi mynd i'r ynys. Maen nhw eisiau gweld y mynydd, y cartrefi, yr ysgolion, y lafa a'r fforestydd.

Mae nwyon gwenwynig dros rannau o'r ynys ac felly maen nhw'n gwisgo mwgwd nwy. Maen nhw'n cael y mwgwd nwy ar y fferi ar y ffordd i'r ynys.

Mae'r bobl leol yn dangos yr ynys i'r twristiaid. Maen nhw'n dangos yr adeiladau a'r lafa a'r fforestydd.

Hoffech chi fynd i Miyakejima?

Geirfa
   
cofio (to) remember
mwgwd nwy gas mask
ynys island
llosgfynydd volcano
ffynhonnau springs
swnio (to) sound
ffrwydro (to) explode
nwyon gases
gwenwynig poisonous
rhannau parts
lleol local
dangos (to) show