Rhifyn 18 - Defnyddio Patrymau

Dysgu Cymraeg yn Japan

Dysgu Cymraeg yn Japan

Dysgu Cymraeg yn Japan

Mae rhai pobl ifanc yn Tokyo, Japan, yn dysgu Cymraeg.

  • Maen nhw’n mwynhau dysgu’r iaith.
  • Maen nhw’n mwynhau dysgu am y Ddraig Goch ac am yr eisteddfod.
  • Maen nhw’n defnyddio llyfrau Cymraeg a Japaneg.
  • Maen nhw’n gwneud fideos yn Gymraeg – gydag is-deitlau Cymraeg a Japaneg.

Pam maen nhw’n dysgu Cymraeg?

Roedd y tiwtor, Takeshi Koike, yn astudio yng Nghymru. Roedd e’n hoffi’r iaith Gymraeg.

Dwedodd e, “Mae llawer o bobl yn meddwl bod pawb ym Mhrydain yn siarad Saesneg. Mae’n ddiddorol bod pobl yn siarad ieithoedd eraill ym Mhrydain.”

Dechreuodd e ddysgu Cymraeg i’r bobl ifanc yn y brifysgol yn Tokyo.

Cliciwch yma i weld rhai o’r bobl ifanc.

Peidiwch â phoeni os dydych chi ddim yn deall popeth ar y ffilm.

Geirfa
   
y Ddraig Goch the Red Dragon
defnyddio (to) use
is-deitlau subtitles
astudio (to) study
Prydain Britain
bod that
ieithoedd languages
prifysgol university