Rhifyn 18 - Defnyddio Patrymau

Gwyliau gwahanol

Gwyliau gwahanol

Ydych chi'n hoffi gwersylla?

 

 Wel beth am hyn? 

Beth: gwyliau mewn iwrt
Ble: Cymru
Beth yn union:

pabell fawr, siâp crwn

carpedi hyfryd ar y llawr

gwely mawr

moethus iawn, iawn

O ble mae iwrts yn dod:

 

 

 

 

Mae pobl Mongolia yn byw mewn iwrts.

Mae'r bobl yn cerdded o le i le gyda'r anifeiliaid ac maen nhw'n cario'u cartrefi - yr iwrts - gyda nhw.

Mae'r iwrts yn gynnes yn y gaeaf achos mae stôf ynddyn nhw.

Dydyn nhw ddim yn rhy boeth yn yr haf.

 

 

Hoffech chi gael gwyliau mewn iwrt?

Geirfa
   
gwersylla camping
anhygoel awesome
pabell tent
llawr floor
pryfed insects
crwn round
moethus luxurious
o le i le from place to place
cynnes warm