Digidol neu analog?
Mae'r erthygl nesaf yn sôn am dechnoleg.
Cyn darllen, beth ydy'r geiriau yma yn Saesneg, tybed?
- digidol
- analog
- nofel
- tabled
- ar-lein
- record finyl
- canol oed
Digidol neu analog?
Beth sy orau?
- Darllen nofel ar dabled neu mewn llyfr papur?
- Gwrando ar gerddoriaeth ar-lein, neu ar record finyl?
- Tynnu llun efo camera digidol neu gamera Polaroid?
- Ysgrifennu nodiadau ar y cyfrifiadur neu ar bapur?
- Chwarae gemau cyfrifiadur neu gemau bwrdd fel Monopoly?
- Cyfarfod ar-lein neu gyfarfod go iawn efo pobl?
Mae technoleg yn bwysig iawn heddiw, ond dydy pawb ddim yn hoffi pethau digidol.
- Mae llawer o bobl yn mwynhau teimlo llyfr.
- Maen nhw’n meddwl bod cerddoriaeth ar record finyl yn fwy emosiynol.
- Mae rhai pobl yn mwynhau gweld y llun yn dod allan o’r camera Polaroid.
- Mae rhai pobl yn gallu meddwl yn well pan maen nhw’n ysgrifennu ar bapur.
- Pan maen nhw’n chwarae gemau bwrdd, mae rhai pobl yn hoffi chwarae efo pobl eraill achos maen nhw’n siarad ac yn mwynhau eu cwmni nhw.
- Mae llawer o bobl yn hoffi siarad â phobl wyneb-yn-wyneb. Maen nhw’n hoffi trafod, cytuno ac anghytuno mewn cyfarfod go iawn.
Pwy sy’n teimlo fel hyn?
Hen bobl?
Pobl ganol oed?
Rhai, wrth gwrs, ond mae llawer o bobl ifanc yn teimlo fel hyn heddiw hefyd!
Geirfa
|
|
gorau |
best |
tynnu llun |
(to) take a photograph |
nodiadau |
notes |
gemau bwrdd |
board games |
cyfarfod |
meeting |
go iawn |
real, proper |
pwysig |
important |
gwell |
better |
cwmni |
company |
wyneb-yn-wyneb |
face-to-face |
fel hyn |
like this |