Dw i’n aros gartre dros yr haf. Dw i’n mynd i gyfarfod â fy ffrindiau a dw i’n mynd i gadw’n heini. Dw i’n mynd i redeg bob bore a nofio bob prynhawn - mae bargen yn y pwll nofio!
Bydda i’n gwersylla gyda’r teulu ym mis Awst. Mae pabell gyda ni a byddwn ni’n mynd i Aberaeron.
Dw i ddim yn mynd ar wyliau ond mae ffrind yn dod i aros efo fi ym mis Awst. Byddwn ni’n mynd i’r sinema ac i fowlio deg.
Dw i ddim yn mynd ar wyliau chwaith ond dw i’n edrych ymlaen at y gwyliau ysgol achos dw i wedi blino rŵan. Dw i’n edrych ymlaen at godi’n hwyr, cael brecwast hwyr, gwneud dim byd ac ymlacio!
Gwyliau diog i fi hefyd! Dw i’n edrych ymlaen at fynd mas gyda ffrindiau.
Gogledd | = | De |
aros adre | (to) stay at home | aros gartre |
cyfarfod â | (to) meet | cwrdd â |
Mae gennyn ni ... | We've got ... | Mae ... gyda ni |
efo | with | gyda |
rŵan | now | nawr |
allan | out | mas |
edrych ymlaen | (to) look forward |
gwersylla | camping |
gobeithio | (I/we) hope |
aros | (to) stay |
bowlio deg | ten pin bowling |
chwaith | either |
hwyr | late |
dim byd | nothing |
ymlacio | (to) relax |
diog | lazy |