Rhifyn 18 - Defnyddio Patrymau

Mynd ar wyliau

Mynd ar wyliau

Mynd ar wyliau

Rydych chi'n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.

Geirfa
   
chwilio (to) search
Dim ots! Never mind!
bwcio (to) book
blaendal deposit
yswiriant insurance
prynu (to) buy
talu'n llawn (to) pay in full
edrych ymlaen (at) (to) look forward (to)
llawer a lot
cynnes warm
aros am (to) wait for
y diwrnod mawr the big day

Loading the player...

Mae Carwyn Claude Crawford eisiau mynd ar wyliau.

Sgript
   
Aled Beth wyt ti'n wneud?
Carwyn Dw i'n chwilio.
Aled Chwilio?
Carwyn Chwilio am wyliau.
Aled O, ble wyt ti eisiau mynd?
Carwyn Dw i ddim yn siŵr eto ... dw i'n chwilio ar y we.
Aled O. Wela i di!
Carwyn Hwyl!
   

Carwyn

 

 

Dyna ni - dyna ble dw i eisiau mynd.

Beth ydy'r pris?  O, diar!

O diar! Dim ots, dw i'n mynd i safio!

   

Carwyn

 

 

 

 



Bwcio nawr.

Iawn ... iawn ... iawn ... iawn ...
Dyna ni! -

O! Rhaid talu blaendal ... Iawn ... Iawn. Dyma'r cerdyn banc.

Dyna ni - wedi bwcio - ac wedi talu blaendal.

Yswiriant nawr ...

Iawn ... iawn ... iawn ... iawn ... iawn ... iawn ... iawn ... iawn ... iawn ... 

   
   
Aled Wyt ti'n dod allan heno? 
Carwyn Nac ydw. Dim diolch. 
Aled Ond pam?
Carwyn Dw i'n safio arian. Dw i eisiau mynd ar wyliau ym mis Hydref.
Aled O iawn.
   
Aled Wyt ti eisiau dod i'r sinema gyda ni?
Carwyn Dim diolch. Dw i'n safio arian. Dw i eisiau mynd ar wyliau ym mis Hydref.
   
   
Aled  Wyt ti eisiau dod i Gaerdydd am y penwythnos gyda'r gang?
Carwyn Dim diolch. Dw i'n safio arian. Dw i eisiau mynd ar wyliau ym mis Hydref.
   
   
Aled Beth am fynd i lan y môr ... ac yna mynd allan gyda'r gang? 
Carwyn

Lan y môr ... ac allan gyda'r gang ... Na, dim diolch. Dw i'n safio arian achos dw i eisiau mynd ar wyliau ym mis Hydref.
   

Carwyn

 

Beth sy yn y wardrob?

Rhaid prynu dillad newydd. 

   
Carwyn Helo.
Merch Helo.
Carwyn Dw i eisiau sandalau newydd os gwelwch yn dda.
Merch Pa faint?
Carwyn Naw.
Merch Dewch gyda fi.
   
   
Carwyn Ble mae'r crysau T os gwelwch yn dda?
   
Carwyn Ble mae'r eli haul os gwelwch yn dda?
   

Carwyn

 

 

 

Iawn, pedair wythnos i fynd.

O! Rhaid talu'n llawn am y gwyliau.

Gwych!

Dw i'n edrych ymlaen.

   
Carwyn Wel, dw i'n mynd yfory. Rhaid pacio.
Aled Beth wyt ti'n wneud?
Carwyn Dw i'n pacio.
Aled Pacio? Beth wyt ti'n pacio?
Carwyn


Pants ... sandals ... siorts ... dau grys T, eli haul, brwsh dannedd, past dannedd, sebon, plastrau, tabledi i'r bol achos mae'r bwyd yn sbeislyd ac yn boeth iawn, iawn. Hefyd ... papur tŷ bach, ... a ... plygiau i'r clustiau achos mae hi'n swnllyd iawn yno.
Aled Beth am esgidiau?
Carwyn Dim diolch.
Aled Dim esgidiau?!?! Wel beth am sanau?
Carwyn Dim diolch.
Aled Beth am drowsus?
Carwyn Dim diolch.
Aled Beth am siwmper gynnes?
Carwyn Dim diolch.
Aled Sgarff?
Carwyn Dim diolch.
Aled Het?
Carwyn Het haul - diolch.
   
Carwyn Nawr - y batris a'r camera.
Aled Does dim llawer yn y rycsac.
Carwyn Nac oes!
Aled Ble wyt ti'n mynd ar wyliau, Carwyn?
   

Aled

 

Iawn ... mae'r car tu allan. Wyt ti'n barod i fynd?

Ble wyt ti'n mynd ar wyliau, Carwyn?

   
Aled O, Carwyn, ble wyt ti'n mynd?
Carwyn Rhaid i ti aros am y cerdyn post. Hwyl fawr.
Aled O, Carwyn! Carwyn!