Rhifyn 18 - Defnyddio Patrymau

Dewch gyda fi ...

Dewch gyda fi ...

Rydych chi'n mynd i wylio ffilm, ond cyn gwylio, dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help. 

Geirfa
   
Tuduraidd Tudor
ffrog dress
hir long
gemau jewellery
byd world
o'r blaen before
y Tuduriaid the Tudors
cwrw beer
brwydr battle
ymladd fighting
ceffylau horses

Loading the player...
Sgript

 

 

Aled:

Esgusodwch fi.

Merch:

Ie.

Aled:

Dw i’n hoffi’r dillad.

Merch:

Diolch. Dw i’n hoffi’r dillad hefyd. Dw i'n hoffi'r teits coch. Maen nhw'n hyfryd.

Aled:

O … diolch yn fawr. Ble ydych chi’n mynd?

Merch:

Dw i’n mynd i’r Dydd Tuduraidd.

Aled:

A fi! Dw i’n mynd i’r Dydd Tuduraidd hefyd. Dyna pam dw i’n gwisgo teits!

Merch:

Wrth gwrs. Dyna pam dw i’n gwisgo ffrog hir a llawer o gemau. Dw i’n mynd i’r Dydd Tuduraidd yn y castell.

Aled:

Wel, rydych chi’n edrych yn smart iawn.

Merch:

Diolch yn fawr. Beth ydy’ch enw chi?

Aled:

Aled. Beth ydy’ch enw chi?

Merch:

Erin.

Aled:

Ble ydych chi’n byw?

Merch:

Dw i’n byw yn Llanelli.

Aled:

Wel, wel. Dw i’n byw yn Llanelli hefyd.

Merch:

O ble ydych chi’n dod?

Aled:

Dw i’n dod o Lanelli.

Merch:

Wel, wel. Dw i’n dod o Lanelli hefyd. Mae’r byd yn fach.

Aled:

Mae’r byd yn fach iawn! Ydych chi’n hoffi byw yn Llanelli?

Merch:

Ydw. Mae pwll nofio da iawn yno ac mae'r sinema yn wych.

Aled:

Pwll nofio … a sinema.  Rydych chi’n hoffi nofio a gwylio ffilmiau, felly.

Merch:

Ydw. Beth ydych chi’n hoffi gwneud?

Aled:

Dw i’n hoffi nofio a gwylio ffilmiau hefyd – a dw i’n hoffi chwarae pêl-droed …

Merch:

… ac rydych chi’n hoffi gwisgo fel dyn Tuduraidd.

Aled:

Wel … ydw … a nac ydw.

Merch:

“Ydw” a “Nac ydw”?

Aled:

Dw i’n hoffi'r hanes – ond dw i ddim yn hoffi gwisgo'r teits!

Dw i ddim wedi bod i Ddydd Tuduraidd o’r blaen.

Merch:

O, mae Dydd Tuduraidd yn hwyl – yn llawer o hwyl!

Aled:

Beth sy’n digwydd ar Ddydd Tuduraidd?

Merch:

Edrychwch.

 

 

Merch:

Mae pawb yn gwisgo dillad Tuduraidd – fel chi a fi.

Aled:

Smart iawn!

Merch:

Mae pawb yn byw fel y Tuduriaid am ddiwrnod.

Aled:

Byw fel y Tuduriaid?

Merch:

Wel, mae rhai merched yn helpu i baratoi bwyd.

Aled:

Pa fath o fwyd?

Merch:

Cig … a llysiau … a bara … a  cwrw.

Aled:

Blasus iawn.

Merch:

Weithiau mae brwydr.

Aled:

Brwydr?

Merch:

Ymladd. Edrychwch.

Aled:

Ymladd?!? Dw i ddim eisiau ymladd!

Merch:

Dim problem. Ydych chi’n hoffi ceffylau?

Aled:

Ydw, dw i’n hoffi ceffylau’n fawr.

Merch:

Gwych!

Aled:

Pam “Gwych!”?

Merch:

Wel, os ydych chi’n hoffi ceffylau, beth am jowstio?

Aled:

Jowstio – fi?!

Merch:

Ie, chi … dewch.

Aled:

Ond …

Merch:

Bydd e’n hwyl! Dewch gyda fi …

Aled:

Ond …