Dylech chi ...

Arian ... arian ... arian

Pobl ifanc – ac arian
www.arianpoblifanc.com
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Lluniau
  • Cysylltu â ni

website-banner.jpg

Pobl ifanc – ac arian

Sut ydych chi’n gwario arian?

Rydyn ni wedi gofyn y cwestiwn yma i ddisgyblion Blwyddyn 8 mewn un ysgol yng Nghymru. Dyma'r atebion.

Sut mae disgyblion Blwyddyn 8 yn gwario arian:

% y disgyblion yn gwario arian ar:

stats.jpg

 

Beth amdanoch chi?

Paul Paul

Arian?  Dw i ddim yn cael arian poced. Does gen i ddim arian. 

Sofia Sofia

Beth? Dim arian poced? Beth am weithio am arian?

Paul Paul

Ond sut?

Kristian Kristian

Dw i ddim yn cael llawer o arian poced ond dw i’n cael arian fel anrhegion pen-blwydd ac anrhegion Nadolig. Dw i’n ofalus iawn pan dw i’n gwario arian. Dw i’n ofalus iawn pan dw i’n prynu dillad.

Anissa Anissa

Sut mae bod yn ofalus gydag arian?

Cofiwch:

Does gen i ddim arian. = Does dim arian gyda fi. – I haven’t got any money.

Help
Geirfa
gwario to spend
canran percentage
ffôn symudol mobile phone
cylchgrawn  magazine
cylchgronau magazines
elusen charity
amdanoch chi about you
anrheg, anrhegion present, presents 
gofalus  careful
prynu to buy