Sut ydych chi’n teimlo?

Ymlacio ar draws y byd (3)

Mae llawer o bobl yn gweithio’n galed ac maen nhw’n blino. Weithiau, mae pobl o dan straen. Weithiau, maen nhw’n teimlo’n ddiflas.

 

Maen nhw eisiau teimlo’n well, felly beth maen nhw’n wneud? Sut maen nhw’n ymlacio?

 

Yn Japan, maen nhw’n gwneud pethau “gwahanol” iawn.

Cael bath gwahanol

Mae rhai pobl yn cael bath gwahanol – dydyn nhw ddim yn ymolchi mewn dŵr a dydyn nhw ddim yn rhoi bubble bath yn y dŵr.

Maen nhw’n cael bath mewn te gwyrdd ... neu mewn coffi ... neu mewn gwin coch. Mae’r arogl a’r anti oxidants yn gwneud i’r bobl deimlo’n well.

 wine.jpg"Red Wine" Bath gan Jonathan Charles; fe'i defnyddir o dan CC BY

Ymolchi yn y goedwig

Mae rhai pobl yn “ymolchi yn y goedwig”. Na – dydyn nhw ddim yn cael bath yn y goedwig!

Maen nhw’n cerdded drwy’r goedwig ac maen nhw’n anadlu’n ddwfnyn ddwfn iawn.

image1.jpg
image2.jpg

 

Mae anadlu’n ddwfn yn y goedwig yn glanhau’r bobl tu mewn ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Mae hyn fel aromatherapy.

 

Shinrin-yoku ydy’r enw ar “ymolchi yn y goedwig” yn Japan – mae’n bwysig iawn.

 

Hugvie

hug.jpg

Beth ydy e?

Mae e fel clustog.

Mae e’n edrych fel tegan ond mae calon Hugve yn curo (mae dwy ddisg yn y tegan yn curo!)

Rydych chi’n gallu rhoi cwtsh i Hugve ac rydych chi’n teimlo’n wych.

Hefyd – rydych chi’n gallu rhoi ffôn yn y pen ac rydych chi’n gallu siarad dros y ffôn a rhoi cwtsh i Hugve yr un pryd. Rydych chi’n teimlo’n wych wedyn!!

 

Help
Geirfa
ymlacio to relax
yn galed hard
o dan straen under pressure
pwysig important
teimlo’n well to feel better
arogl smell
coedwig woods, forest
anadlu to breathe
yn ddwfn deeply
glanhau to clean
tegan toy
calon heart
curo to beat
rhoi cwtsh i to hug, to cuddle
yr un pryd the same time