Beth ydy’ch enw chi?
Awel Haf Roberts ydw i.
Faint ydy’ch oed chi?
Dw i’n 17 oed.
I ba ysgol ydych chi’n mynd?
I Ysgol Uwchradd Glan Clwyd
Beth ydy’ch hobïau chi?
Cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a rhaglenni teledu 'realiti' ydy fy hobïau i.
Beth ydych chi’n wneud yn yr Urdd?
Dw i’n cystadlu mewn eisteddfodau; es i ar daith yr Urdd i Alton Towers ym Mlwyddyn 8 ac ym mis Hydref 2015, perfformiais i yn Les Misérables efo Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd. Mae’r Cwmni’n helpu pobl ifanc i berfformio yn Gymraeg.
Ble yng Nghaerdydd oedd y perfformiad?
Yng Nghanolfan y Mileniwm.
Sut oedd perfformio yng Nghanolfan y Mileniwm?
Brawychus, cyffrous ac anhygoel!
Oedd rhaid ymarfer llawer cyn y perfformiad?
Oedd. Roedden ni’n aros yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd, drws nesa i Ganolfan y Mileniwm. Roedden ni’n ymarfer o tua hanner awr wedi wyth y bore tan bump neu chwech o’r gloch bob dydd.
Sut oeddech chi’n teimlo ar y noson gyntaf?
Wedi blino achos yr ymarferion. Roeddwn i’n nerfus hefyd achos roedd y Ganolfan yn llawn ond roeddwn i’n gyffrous iawn iawn hefyd.
Aethoch chi i’r West End yn Llundain i berfformio hefyd?
Do, daeth Sir Cameron Mackintosh i weld un o’r ymarferion a gofynnodd o i ni fynd i berfformio mewn cyngerdd yn Theatr y Frenhines yn Llundain – profiad arbennig iawn!
Beth oedd y profiad gorau?
Roedd perfformio yng Nghanolfan y Mileniwm gyda’r Urdd yn brofiad arbennig iawn! Roedd o’n hwyl – yn llawer o hwyl – a dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd.
Geirfa | |
gwleidyddiaeth | politics |
cystadlu | to compete |
cwmni | company |
ieuenctid | youth |
brawychus | frightening |
ymarfer | to rehearse |
ymarferion | rehearsals |
llawn | full |
aethoch chi | you went |
cyngerdd | concert |
profiad | experience |