Rhifyn 16 - Ffantasi

Canu da?

Rydych chi'n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi os ydych chi eisiau help.

Geirfa
   
ifanc young
clyweliadau auditions
mynyddoedd mountains
ennill (to) win
cystadleuaeth competition
cariad boyfriend
golygus handsome
gwestai hotels
gawn ni weld We'll see

Loading the player...
Sgript
   
Cyflwynydd: Noswaith dda o'r stiwdio.
Cyflwynydd: Mae grŵp arall o bobl ifanc yn aros i ganu yn y clyweliadau ar gyfer "Cana i mi".
Cyflwynydd: Wel, dyma'r person nesaf i ganu. Beth am siarad gyda hi?
Cyflwynydd: Iawn ... pwy wyt ti?
Ffion: Ffion Jones ydw i.
Cyflwynydd: O ble wyt ti'n dod, Ffion?
Ffion: Dw i'n dod o Landudno.
Cyflwynydd: Beth ydy dy waith di?
Ffion: Dw i'n nyrs.
Cyflwynydd: Beth ydy dy hobïau di?
Ffion: Wel, dw i'n hoffi cerdded a beicio.
Cyflwynydd: Cerdded a beicio?
Ffion: Dw i'n hoffi cerdded a beicio yn y mynyddoedd.
Cyflwynydd: Hyfryd!
Ffion: A dw i'n hoffi canu, wrth gwrs.
Cyflwynydd: Pam wyt ti yma, Ffion?
Ffion: Achos dw i eisiau ennill y gystadleuaeth "Cana i mi".
Cyflwynydd: O?
Ffion: A dw i eisiau cael llawer o arian ...
Cyflwynydd: Llawer o arian?
Ffion: ... a dw i eisiau cael dillad smart ...
Cyflwynydd: Dillad smart?
Ffion: A dw i eisiau cael fila yn Sbaen ... a'r Eidal ... a Groeg ...
Cyflwynydd: Fila yn Sbaen ... a'r Eidal ... a Groeg ...
Ffion: ... a hoffwn i gael car mawr, cŵl ...
Cyflwynydd: Car mawr, cŵl?
Ffion: ... a hoffwn i gael cariad golygus.
Cyflwynydd: Hym hym!
Ffion: Cariad golygus ... a hoffwn i gael ci bach ciwt ... na, hoffwn i gael pedwar ci bach ciwt - pedwar bichon frise gyda dillad smart ...
Cyflwynydd: pedwar bichon frise?
Ffion: ... a hoffwn i aros mewn gwestai pum seren ym Mharis ... a Madrid ... a Milan ...
Cyflwynydd: Gwestai pum seren?
Ffion: ... a hoffwn i deithio'r byd ... a ...
Cyflwynydd: Iawn, Ffion - maen nhw'n barod.
Ffion: Diolch.
Cyflwynydd: Pob lwc!
Ffion: Pah! Diolch yn fawr.
   
Cyflwynydd: Wel?
Ffion: Wel?
Cyflwynydd: Wel, sut oedd y clyweliad?
Ffion: Grêt ... gwych ... ffantastig.
Cyflwynydd: O, da iawn.
Ffion: Roedd e'n wych! Dw i'n mynd i ennill ac yna bydda i'n gallu cael llawer o arian ... dillad smart ... fila yn Sbaen, yr Eidal a Groeg ... car mawr cŵl ... cariad golygus ... pedwar bichon frise ... aros mewn gwestai yn Ewrop ... a theithio'r byd. Hwyl fawr! 
Cyflwynydd:

Hwyl fawr i ti, Ffion.

Ydych chi eisiau gweld perfformiad Ffion? Dyma ni.

   
Cyflwynydd: Mmm? Llawer o arian? Dillad smart? Fila yn Sbaen, yr Eidal a Groeg? Car mawr, cŵl? Cariad golygus? Pedwar bichon frise? Aros mewn gwestai yn Ewrop? Teithio'r byd? Ennill y gystadleuaeth? Beth ydych chi'n feddwl?