Rhifyn 16 - Ffantasi

Hen, hen stori

Dyma hen, hen stori Gymraeg.

Mae'r anifeiliaid yma yn y stori:

ysgyfarnog

 

milgi

 

pysgodyn

 

dyfrgi

 

aderyn

 

hebog

 

iâr

 

Roedd Ceridwen, y wrach, yn byw ger y Bala. Roedd hi’n byw gyda Tegid Foel, ei gŵr hi, Creirfyw, ei merch hi, a Morfran, ei mab hi.

Roedd Creirfyw yn hardd iawn, iawn ond roedd Morfran yn hyll iawn, iawn. Roedd Ceridwen eisiau helpu Morfran.

Gwnaeth hi ddiod arbennig i Morfran – diod hud. Roedd Gwion Bach, y gwas, yn helpu gyda’r ddiod. Un diwrnod, pan oedd e’n helpu, llyncodd e dipyn bach o’r ddiod. Roedd Ceridwen yn wyllt gacwn a rhedodd hi ar ôl Gwion Bach.

Roedd y ddiod yn ddiod hud, felly troiodd Gwion Bach yn ysgyfarnog a rhedodd e’n gyflym oddi wrth Ceridwen. Ond roedd Ceridwen yn wrach. Felly troiodd hi’n filgi cyflym i redeg ar ôl Gwion.

Rhedon nhw a rhedon nhw nes ddod at afon. Troiodd Gwion yn bysgodyn a nofiodd e yn y dŵr. Ond troiodd Ceridwen yn ddyfrgi a nofiodd hi ar ôl Gwion.

Yn sydyn, neidiodd Gwion allan o’r afon. Troiodd e’n aderyn a hedfanodd e. Ond troiodd Ceridwen yn hebog, a hedfanodd hi ar ôl Gwion.

Roedd Ceridwen yn hedfan yn gyflym iawn, iawn.  Troiodd Gwion yn ronyn gwenith a syrthiodd e i ganol llawer o wenith ar y llawr. “Gwych!” roedd e’n meddwl, “Dw i’n saff!” Ond troiodd Ceridwen yn iâr a bwytodd hi’r gwenith.  Bwytodd hi Gwion.

Naw mis wedyn, cafodd Ceridwen fabi bach – Gwion Bach. Roedd Ceridwen yn wyllt gacwn gyda Gwion ond roedd e’n fabi hardd. Doedd Ceridwen ddim eisiau lladd Gwion.  Rhoddodd hi fe mewn bag o ledr a’i daflu fe i’r môr yn Abermaw.

Ffeindiodd dyn o’r enw Gwyddno Garanhir y bag a helpodd e’r babi bach hardd. Rhoddodd e enw arall i’r babi - Taliesin.  Tyfodd Taliesin yn fachgen clyfar iawn. Tyfodd e i fod yn fardd pwysig.

Oeddech chi'n gwybod?

Llyn Tegid ydy enw’r llyn ger y Bala. Tegid oedd enw gŵr Ceridwen.

Mae lle o’r enw Tre Taliesin i’r gogledd o Aberystwyth – dyna ble ffeindiodd Gwyddno Garanhir y babi – yn ôl y stori!

Geirfa
   
gwrach witch
gŵr husband
merch daughter
mab son
hyll ugly
diod drink
hud magic
gwas servant
llyncu (to) swallow
tipyn bach a little
yn wyllt gacwn furious
troiodd he/she turned (troi)
oddi wrth from
nes until
hedfan (to) fly
gronyn grain
gwenith wheat
wedyn afterwards
lladd (to) kill
lledr leather
taflu (to) throw
yn ôl according to
bardd poet