Darllenwch y gerdd.
Mae Nain yn dweud o hyd,
‘Rhaid bwyta pethau sy’n
Llawn maeth, er mwyn iti
Gael tyfu’n fachgen cry.
Bresych a bara, moron a ffa,
Pysgod a ffrwythau. Rhain sy’n dda!
Cig ac uwd a chreision ŷd.
Rhain yw bwydydd iacha’r byd!’
Ond mae’n well gen i...
Chop suey a chips, Pepsi a pizza,
Byrgar a chyrri, kebabs a samosa,
Pasta a popcorn, tandwri a Twix,
Lemonêd a lasagne, Pick-and-Mix,
Pot nwdls, Penguins a hufen iâ.
Bwydydd ffantastig! Rhain sy’n dda!
Zorah Evans
[Poeth: cerddi poeth ac oer
gol. Non ap Emlyn
Y Lolfa, 2001]
| Geirfa |
|
| dweud | to say |
| o hyd | all the time |
| sy'n llawn maeth | that's full of nourishment |
| er mwyn iti gael | so that you can |
| tyfu | to grow |
| cry = cryf | strong |
| bresych | cabbage |
| (y) rhain | these |
| iacha(f) | most healthy |
| cig | meat |
| uwd | porridge |
| byd | world |