Ydych chi’n cofio’r darn Mop … pêl … a … gôl?
Cwis
Cwis cyflym:
- Beth ydy’r gêm?
- Mae’r gêm fel (i) ………………………… (ii) ………………………… (iii) ………………………… (iv) …………………………
- Sawl person sy mewn tîm?
- I chwarae, rhaid cael (i) ………………………… (ii) ………………………… (iii) …………………………
- Ble mae pobl yn chwarae’r gêm heddiw?
Quidditch: Pwy ydy pwy?
Mae 7 person mewn tîm - bechgyn a merched. Ond pwy ydyn nhw?
Chaser:
- Mae 3 chaser mewn tîm.
- Maen nhw’n rhedeg, yn pasio’r cwaffl (pêl fach) i bobl eraill ar y tîm.
- Maen nhw’n trio sgorio gôl (10 pwynt).
- I sgorio, rhaid taflu’r bêl drwy 1 o’r 3 cylch.
Keeper - y gôl-geidwad:
- Mae gôl-geidwad yn trio cadw’r cwaffl allan o’r 3 cylch.
Beater:
- Mae 2 beater yn taflu peli, bludgers, at y tîm arall - i drio stopio nhw.
Seeker:
- Mae 1 seeker.
- Mae e’n trio dal y snitch – pêl fach.
- Yn y ffilm, mae’r snitch yn bêl fach aur ac mae hi’n hedfan yn gyflym.
- Mae’r snitch yn werth 30 pwynt.
Dyna’r 7 person yn y tîm, ond mae un person arall yn chwarae hefyd:
Snitch runner:
- Mae 1 snitch runner ac mae e’n gwisgo dillad melyn. Mae’r snitch, y bêl fach, yn sownd i’r dillad. Mae e’n rhedeg yn gyflym iawn iawn achos mae’r seekers eisiau’r snitch.
Help
Geirfa |
taflu
|
to throw
|
gôl-geidwad
|
goalkeeper
|
cadw … allan
|
to keep out
|
arall |
other |
aur
|
golden
|
gwerth
|
worth
|
hedfan
|
to fly
|
yn sownd i |
attached to |
Beth ydy’r geiriau Cymraeg?