Gwych? Diflas?

Bwyd iach?

Darllenwch y gerdd.

Bwyta’n iach

Mae Nain yn dweud o hyd,
‘Rhaid bwyta pethau sy’n
Llawn maeth, er mwyn iti
Gael tyfu’n fachgen cry.
Bresych a bara, moron a ffa,
Pysgod a ffrwythau. Rhain sy’n dda!
Cig ac uwd a chreision ŷd.
Rhain yw bwydydd iacha’r byd!’

Ond mae’n well gen i...

Chop suey a chips, Pepsi a pizza, 
Byrgar a chyrri, kebabs a samosa,
Pasta a popcorn, tandwri a Twix,
Lemonêd a lasagne, Pick-and-Mix,
Pot nwdls, Penguins a hufen iâ.
Bwydydd ffantastig! Rhain sy’n dda!

Zorah Evans
[Poeth: cerddi poeth ac oer 
gol. Non ap Emlyn
Y Lolfa, 2001]

Help
Geirfa
dweud to say
o hyd all the time
sy'n llawn maeth that's full of nourishment
er mwyn iti gael so that you can
tyfu to grow
cry = cryf strong
bresych cabbage
(y) rhain these
iacha(f) most healthy
cig meat
uwd porridge
byd world