- Hafan
- Ras rhedeg a bwyta
- Ras donyts
- Lluniau
Fel arfer, mae pobl yn meddwl bod rhedeg mewn ras yn iach iawn achos rhaid hyfforddi, rhaid bwyta’n iach a rhaid paratoi. Ond beth am y rasys yma …?
Ras rhedeg a bwyta
Ble: North Carolina, America
Beth: Ras i dîm o bedwar
Rheolau:
- Rhaid i un person nofio mewn pwll nofio ac yna rhedeg.
- Rhaid i un person feicio ddeg milltir.
- Rhaid i un person redeg dwy filltir a hanner.
- Rhaid i un person redeg milltir a thri chwarter. OND …
- Rhaid i bawb fwyta ar ddechrau pob ras. Tybed sut maen nhw’n teimlo – yn bwyta ac yn rasio?
Ras donyts
Ble: North Carolina, America
Beth: Ras donyts
Rheolau:
- Rhaid rhedeg dwy filltir a hanner.
- Rhaid bwyta dwsin o ddonyts (dros ddwy fil pedwar cant (2,400) calori!)
- Rhaid rhedeg dwy filltir a hanner arall.
- Rhaid gwneud hyn mewn llai na chwe deg (60) munud.