Helo.
Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.
Help| Help | |
| sgidiau (esgidiau) | shoes |
| cystadlu dros | to compete for |
| paratoi | to prepare |
| ymarfer | to train, exercise |
| bwydydd | foods |
| yn ddiogel | safely |
| ifanc | young |
Gwyliwch y ffilm.
Helo.
Helo.
Beth ydy’ch enw chi?
Manon Lloyd ydw i.
Ble ydych chi’n byw?
Dw i’n byw yng Nghasnewydd.
Beth ydych chi’n wneud?
Dw i’n beicio.
Ydych chi’n mwynhau beicio?
Ydw, rwy i* wrth fy modd.
Pam ydych chi’n mwynhau beicio?
Achos mae’n hwyl.
Beth ydych chi’n wisgo i feicio?
Dw i’n gwisgo helmed, sbectol, menig a sgidiau beicio.
Ydych chi’n cystadlu dros Gymru?
Ydw.
Ble ydych chi’n cystadlu dros Gymru?
Ydw.
Ble ydych chi’n cystadlu dros Gymru?
Rwy’n cystadlu ym Mecsico, Cali [Colombia] a Phortiwgal.
Sut ydych chi’n paratoi ar gyfer ras?
Dw i’n ymarfer bob dydd. Dw i’n bwyta bwydydd iach a dw i’n cael naw awr o gwsg bob nos.
Beth ydy’ch tips chi ar gyfer beicio’n ddiogel?
Rhaid gwisgo helmed a rhaid bod yn ofalus.
Mae rhai pobl ifanc eisiau cystadlu ym myd beicio. Beth ydy’ch tips chi?
Rhaid ymarfer. Hefyd, rhaid bwyta bwydydd iach – a cysgu’n dda yn y nos.
* Rwy i = Dw i