Ydych chi’n mwynhau chwaraeon?
Ydych chi’n mwynhau chwaraeon fel pêl-droed … tennis … rygbi … hoci?
Ydych chi’n mwynhau gwylio chwaraeon ar y teledu?
Wel, beth am y chwaraeon yma – Gemau Olympaidd mewn Mwd?
Mae pobl yn dod i Brunsbüttel bob blwyddyn i gystadlu yn y gemau. Maen nhw’n rhedeg yn y mwd, chwarae pêl-droed yn y mwd, chwarae pêl-law yn y mwd, rasio sled yn y mwd, taflu welis yn y mwd. Maen nhw’n gwisgo gwisg ffansi ac maen nhw’n cael hwyl yn rhedeg drwy’r mwd, yn cicio pêl drwy’r mwd – ac yn syrthio yn y mwd gwlyb, brwnt. Hwyl!
Torri record y byd
Roedd 2014 yn flwyddyn arbennig iawn yn y Gemau yma achos roedd y chwaraewyr eisiau torri record y byd am wneud angel yn y mwd (fel gwneud angel yn yr eira!) ac felly …
… gorweddodd 350 o bobl yn y mwd i wneud angel yn y mwd. Bobl bach!
Beth arall?
Mae seremoni arbennig i agor y Gemau – mae band yn perfformio.
Mae stondinau bwyd a diod yn y Gemau Olympaidd mewn Mwd.
Codi arian
Mae’r Gemau’n codi llawer o arian at achosion da.
Y Gemau Olympaidd mewn Mwd – Cyffrous! Brwnt! Hwyl! Gwych!