Geirfa | |
yn araf |
slowly |
yn gyflym |
quickly |
cwrs |
course |
beicio mynydd |
mountain biking |
y wlad |
the coutry |
y goedwig |
the woods |
antur |
adventure |
bownsio | to bounce |
neidio |
to jump |
arbennig |
special |
y wifren wib |
the zip wire |
hir |
long |
uchel |
high |
hen |
old |
chwareli |
mines |
llechi | slates |
I fyny … i fyny … yn araf … yn araf ac yna, yn sydyn – i lawr yn gyflym. Sblash!
Ble ydyn ni?
Wel, yn Oakwood, Sir Benfro, wrth gwrs.
Os ydych chi’n hoffi mynd ar reidiau a chael hwyl, dewch i Oakwood!
Ble ydyn ni nawr?
Rydyn ni ar gwrs beicio mynydd ym Mrechfa, Sir Gaerfyrddin.
Mae’r cwrs yn ddiddorol iawn …
… drwy’r wlad …
… drwy’r goedwig.
Mae beicio mynydd yn llawer o hwyl!
Ydych chi’n hoffi cael antur?... Wel, dewch i Lechwedd … yng Ngwynedd.
Mae’n lle da i fownsio.
Mae’n lle da iawn i fownsio … a neidio … a chael hwyl – llawer o hwyl… gyda ffrindiau.
Neu beth am fynd i Zip World yn Llechwedd a Bethesda, yng Ngwynedd?
Edrychwch. Mae’r bobl yma’n gwisgo dillad coch arbennig ac maen nhw’n zipio ar y wifren wib.
Mae'r wifren wib yn hir iawn.
Mae hi’n uchel iawn hefyd.
Mae’r wifren wib yn mynd dros hen chwareli llechi.
Mae zipio ar y wifren wib yn gyffrous iawn.
Mae'n gyffrous iawn iawn. Mae’n ffantastig! Mae’n hwyl!
Merch: Gwych!