Weithiau, ar ddydd Sadwrn, dw i’n mynd i’r ganolfan ddringo achos mae’n hwyl. Mae Matt a Sam yn dod hefyd.
Dw i wrth fy modd yn dringo yn y ganolfan ddringo gyda Yassin a Sam ond dw i’n mwynhau chwarae golff hefyd. Mae clwb golff i blant a phobl ifanc yn y clwb golff yn y dre. Mae’n wych.
Dw i’n hoffi mynd i’r dre gyda ffrindiau ar ddydd Sadwrn. Weithiau, rydyn ni’n siopa ac rydyn ni’n bwyta brechdan yn y parc amser cinio. Weithiau, rydyn ni’n mynd i’r sinema yn y prynhawn ac rydyn ni’n mynd i’r caffi wedyn.
DIFLAS!!! Mae’n gas gen i fynd i’r dre ac mae’n gas gen i siopa. Mae’n gas gen i fwyta brechdan yn y parc.
Mae’n gas gyda fi fynd i’r dre hefyd – ac mae’n gas gyda fi siopa.
Dw i’n mwynhau mynd i go-cartio gyda ffrindiau achos mae’n gyffrous iawn.
Dw i’n mwynhau mynd i dŷ ffrind i weld ffilm ar ddydd Sadwrn. Mae’n hwyl ac mae’n rhad ac am ddim!
Syniad, da Karen. Dw i’n hoffi mynd i dŷ ffrind hefyd – i chwarae gemau fideo. Mae’n gyffrous iawn.
Dw i’n mynd i dŷ ffrind yn aml ar ddydd Sadwrn ond weithiau rydyn ni’n mynd i’r ganolfan hamdden i gadw’n heini hefyd.
Help | |
canolfan ddringo | climbing centre |
hefyd | also |
weithiau | sometimes |
wedyn | then, afterwards |
diflas | boring, miserable |
mae’n gas gen i … | I hate … |
mae’n gas gyda fi … | I hate … |
rhad ac am ddim | free |
cadw’n heini | to keep fit |
golf club
to go-kart