"The Vegetable Orchestra" - Instruments. Lluniau gan Alexander Koller.
Ydych chi’n hoffi bwyta llysiau – mewn stiw neu stir-fry neu ar pizza?
Ydych chi’n hoffi yfed llysiau – mewn cawl neu sŵp neu mewn smoothie?
Ond …
… ydych chi’n hoffi gwrando ar lysiau?
Gwrando ar lysiau?
Ydy, mae hi’n bosib gwrando ar lysiau. Gwyliwch a gwrandewch:
Pwy?
Y gerddorfa lysiau – neu Das erste Wiener Gemüseorchester.
Ble?
Vienna, Awstria – ond maen nhw’n perfformio ar draws y byd.
Beth?
Mae’r gerddorfa’n creu cerddoriaeth – allan o lysiau.
Sut?
Maen nhw’n gwneud offerynnau – allan o lysiau. Maen nhw’n chwythu ac yn taro’r offerynnau.
"The Vegetable Orchestra" - Group photo. Lluniau gan Zoefotografie.
Pa fath o offerynnau?
Maen nhw’n gwneud trympedau allan o courgettes, bongos allan o seleri, cucumberophones allan o giwcymbrau a recorders allan o foron.
O ble mae’r llysiau’n dod?
Mae’r bobl yn mynd i’r farchnad i brynu llysiau ffres. Yna, maen nhw’n gwneud yr offerynnau ac maen nhw’n perfformio gyda’r offerynnau.
Pa fath o gerddoriaeth?
Mae’r gerddorfa’n perfformio cerddoriaeth fodern, cerddoriaeth bît, cerddoriaeth electronig, jazz a dub.
Ble maen nhw’n perfformio?
Ar draws y byd.
Ac ar ôl y perfformiad?
Geirfa | |
cerddorfa | orchestra |
ar draws y byd | all over the world |
creu | to create |
offeryn, offerynnau | instrument, instruments |
chwythu | to blow |
taro | to beat |
powlen | bowl |
cawl | broth, soup |
trympedau
ciwcymbrau
perfformio
ffres
cerddoriaeth bît
Lluniau gan Alexander Koller a Zoefotografie. Diolch i'r "The Vegetable Orchestra".