Beth am …?

Byw ar blaned Mawrth

Byw ar blaned Mawrth

Ydych chi eisiau byw ar blaned Mawrth?

Yn 2024, bydd grŵp o bobl yn mynd i fyw yno – am byth!

Ydych chi eisiau mynd gyda nhw?

 mars-article image.jpg

Dyma rai pwyntiau pwysig am fynd i fyw ar blaned Mawrth

 

Paratoi

Rhaid paratoi cyn mynd. Rhaid paratoi am wyth mlynedd.

 

Rhaid dysgu sgiliau newydd, e.e.:

  • sut i dyfu bwyd mewn lle bach
  • sut i ofalu am eich dannedd ac am eich iechyd  chi
  • sut i fyw’n hapus gyda grŵp bach iawn o bobl.

 

Teithio

I fynd i blaned Mawrth, rhaid teithio mewn roced, ond bydd llong ofod ar y roced.

 

Yn y llong ofod, bydd:

  • lle i fyw
  • bwyd
  • paneli haul
  • offer.

Ar y daith:

  • rhaid bwyta bwyd mewn tun neu fwyd sy wedi’i sychrewi
  • rhaid cadw’n heini am dair awr y dydd
  • rhaid defnyddio wet wipes am 7-8 mis achos does dim bath a does dim cawod yn y llong ofod.

 

Ar blaned Mawrth

Bydd unedau byw ar y blaned ac yn yr unedau bydd:

  • ystafell fyw
  • ystafell wely
  • lle  i weithio
  • uned tyfu bwyd
  • cawod
  • lle i baratoi bwyd ffres.

 

Bydd hi’n bosib byw bywyd ‘normal’ a gwisgo dillad pob dydd yn yr unedau byw ond rhaid gwisgo siwt Mawrth tu allan.

 

Gweithio

Ar blaned Mawrth, rhaid adeiladu unedau newydd a rhaid dysgu am y blaned, dysgu sut i fyw ar y blaned, dysgu sut i dyfu planhigion ac ati.

 

Cyffrous!