Beth am …?

Jeli mewn weli

logo.jpg

Ysgolion yn Affrica

5 Y Ffordd Fawr

Aberystwyth

Ceredigion

SB45 8AB

22 Mai 2015

Annwyl ysgol

Ysgolion yn Affrica

Rydyn ni eisiau codi arian i adeiladu ysgolion newydd yn Affrica. Rydyn ni eisiau codi tair miliwn o bunnau (£3,000,000) ac felly rydyn ni’n ysgrifennu i ofyn am help os gwelwch yn dda.

 

Mae llawer o bobl Cymru’n helpu ni i godi’r arian. Mae rhai pobl yn:

  • gwisgo gwisg ffansi
  • lliwio’u gwallt yn binc neu’n wyrdd
  • siafio’u gwallt
  • eistedd mewn bath o gwstard
  • siarad Cymraeg drwy’r dydd – dim Saesneg!

Dyma syniad newydd hefyd:

  • rhoi jeli mewn welis a gwisgo’r welis drwy’r dydd.

Helpwch ni i godi tair miliwn o bunnau os gwelwch yn dda.

 
Diolch yn fawr.

C. White

Carys White - Swyddog Codi Arian

Help
Geirfa

codi

to raise

adeiladu

to build

felly

therefore, so

gofyn

to ask

llawer

many, a lot of

rhai some

lliwio

to colour

gwallt

hair

drwy’r dydd

all day

syniad

 idea
 

rhoi

 

to put, place

 swyddog  officer

Beth ydy’r geiriau Cymraeg am …?

Africa

million