Beth am …?

Capoeira

Edrychwch ar y lluniau a’r clipiau yma. Maen nhw’n dangos Capoeira.

capoeira-2.jpg
capoeira-1.jpg
capoeira-3.jpg
Loading the player...
Loading the player...

Beth ydy Capoeira?

Gymnasteg?

Dawns?

Ymladd?

Mae capoeira yn gymnasteg … a dawns … ac ymladd … a cherddoriaeth.

Dyma’r cylch – y roda.

Mae’r bobl yma’n clapio ac yn canu.

image3.jpg

Capoeira: Sut i chwarae
  • Rhaid cael dau chwaraewr.
  • Rhaid cael cylch o bobl – y roda.
  • Rhaid i’r bobl chwarae cerddoriaeth.
  • Rhaid i’r ddau chwaraewr ddawnsio ar eu traed ac ar eu dwylo – i rythm y gerddoriaeth.
  • Rhaid i’r ddau chwaraewr wneud acrobateg – i rythm y gerddoriaeth.
  • Rhaid tricio’r partner.
  • Rhaid i’r bobl yn y roda ddewis pwy ydy’r chwaraewr gorau.
Capoeira: ffeil ffeithiau

O ble?   

O Brasil.

Pwy? 

Caethweision.

Pryd?

Tua 500 o flynyddoedd yn ôl.

Pam?

Roedd y caethweision yn drist iawn achos roedd y perchnogion yn gas iawn.

Roedd y caethweision eisiau dysgu sut i ymladd ond roedd problem – y perchnogion cas!

Roedd y perchnogion cas yn dweud, “Dim ymladd!”

Felly, roedd y caethweision yn ‘cuddio’r’ ymladd yn y dawnsio a’r gerddoriaeth.

Felly – ymladd + dawnsio + miwsig = capoeira

Help
Geirfa
llun, lluniau picture, pictures
ymladd fighting, to fight
cylch circle
heini fit
eu their
dewis to choose
gorau best
caethweision slaves
tua about, approximately
blynyddoedd years
yn ôl ago
roedd were
perchnogion owners
cas nasty, cruel
felly therefore, so
cuddio to hide

Beth ydy …?

acrobateg

chwaraewr

rhythm

tricio