Pa fath o ffilmiau ydych chi’n mwynhau?
Beth am ffilmiau ditectif (detective movies) … neu ffilmiau dirgelwch (mystery films) … neu ffilmiau James Bond?
Mae llawer o bobl yn mwynhau ffilmiau James Bond, wrth gwrs. Dyma adolygiad o un o ffilmiau James Bond:
Mae ffilmiau James Bond yn gyffrous iawn ond Skyfall ydy’r ffilm James Bond orau.
Pa fath o ffilmiau ydy ffilmiau James Bond? Maen nhw’n ffilmiau ias a chyffro ac maen nhw’n ffilmiau antur hefyd. Ffilmiau ysbïwyr ydyn nhw ac mae Skyfall yn ffilm ysbïwyr ardderchog.
Mae’r stori’n gyffrous. Ar y dechrau, mae James Bond ac Eve Moneypenny yn chwilio am ddyn drwg o’r enw Patrice achos mae e wedi dwyn disg caled. Ar y disg mae enwau ysbïwyr o Brydain.
Mae Patrice yn gweithio i Silva ac mae e eisiau lladd yr ysbïwyr. Mae e eisiau lladd M, pennaeth James Bond, hefyd ond mae James Bond yn helpu M.
Mae M a fe’n mynd i’r Alban, i hen gartref James Bond, ac mae Silva’n dod ar ôl y ddau.
Beth sy’n digwydd? Rhaid gwylio’r ffilm!
Mae’r cymeriadau’n realistig iawn. Mae James Bond (Daniel Craig) yn olygus ac yn heini iawn. Mae e’n gyrru’n gyflym ac mae e’n ymladd yn ddewr. Mae e’n sensitif hefyd achos mae e’n hoffi M ac mae e eisiau ei helpu hi.
Mae M (Judi Dench) yn bennaeth da achos mae hi’n poeni am ei staff ac mae hi eisiau eu helpu nhw. Mae hi’n ddewr hefyd.
Mae’r gwaith ffilmio’n ardderchog ac mae’r golygfeydd yn drawiadol iawn. Rydyn ni’n gweld Istanbul, gwlad hardd a môr glas hyfryd yn Nhwrci! Hefyd, pan mae James Bond ac M yn mynd i’r Alban, mae hi’n dywyll ac yn ddiflas iawn – gwahanol iawn i haul a’r tywydd braf yn Nhwrci.
Mae’r gerddoriaeth yn anhygoel hefyd. Mae’n gyffrous ac yn uchel pan mae James Bond yn ymladd ond mae’n dawel ac yn sensitif weithiau – er mwyn creu awyrgylch arbennig.
Fel ffilmiau eraill James Bond, mae llawer o bethau’n digwydd yn y ffilm yma ac mae rhywbeth at ddant pawb. Mae llawer o hiwmor yn y ddeialog hefyd. Heb os nac oni bai, mae’r ffilm yn gyffrous.
Dw i wrth fy modd yn gwylio ffilmiau James Bond a dw i’n edrych ymlaen at yr un nesaf! Ewch i weld y ffilm!
Llun: Alan Wu © Under Creative Commons (CC BY-SA 2.0) https://creativecommons.org/licenses/by-sa/2.0/
rhywbeth at ddant pawb |
something for everyone |
Geirfa | |
adolygiad | review |
gorau | best |
ysbiwyr | spies |
wedi dwyn |
has stolen |
lladd |
to kill |
pennaeth | boss |
diwedd | end |
cymeriadau |
characters |
golygus |
handsome |
heini | fit |
yn ddewr |
bravely |
golygfeydd | scenery |
trawiadol | striking |
awyrgylch | atmosphere |
ymlaen | forward |