Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.
Help| Geirfa | |||
| hwyr | late | Dim peryg! | No chance! |
| rhy hwyr | too late | bara saim | fried bread |
| cyn | before | ar ôl | after |
| ymolchi | to have a wash | gawn ni weld | we’ll see |
| cawod | shower | ||
| Person | Sgript |
|
Carwyn:
|
Faint o’r gloch ydy hi? FAINT o’r gloch ydy hi? O – mae hi’n hanner awr wedi deg ... ... Nos da. |
|
Carwyn: Llais ar y ffôn: Carwyn: Llais ar y ffôn: Carwyn: Llais ar y ffôn: Carwyn: |
Ie?
O?
Dim diolch.
Nos da. |
|
Carwyn: Llais ar y ffôn: Carwyn: Llais ar y ffôn: Carwyn: Llais ar y ffôn: Carwyn: |
Ie?
O – Aled - eto?
Dim diolch – ETO!!!
Nos da. |
|
Carwyn: Llais ar y ffôn: Carwyn: |
Ie?
Nos da, Aled. |
|
Carwyn: |
Bobl bach!!!! |
| Carwyn: | Mawredd mawr! |
| Carwyn: | Pwy sy yna? |
| Aled: | Aled. |
| Carwyn: | Aled? |
| Aled: | Ie, Aled. |
| Carwyn: | Ond ... |
| Aled: | Bobl bach! |
| Carwyn: | Hei, beth wyt ti’n wneud? Mae’r aftershave yn ddrud iawn. |
| Carwyn: | Beth wyt ti eisiau? |
| Aled: | Dw i eisiau dweud “Helo”. |
| Carwyn: | O – helo ... a ta ta ...
Dw i wedi blino. Dw i’n teimlo’n ych a fi – yn ofnadwy. |
| Aled: | Wyt ti’n sâl? |
| Carwyn: | Nac ydw, dw i ddim yn sâl ond dw i ddim yn teimlo’n dda iawn. Dw i wedi blino ... |
|
Aled: |
Faint o’r gloch est ti i’r gwely neithiwr? |
| Carwyn: | Pardwn? |
|
Aled: |
Faint o’r gloch est ti i’r gwely neithiwr? |
| Carwyn: | Mmmm ... ... tua hanner awr wedi un. |
|
Aled: |
Beth?!?!?!? |
| Carwyn: | Tua hanner awr wedi un. |
|
Aled: |
|
| Carwyn: |
Ond roedd ffilm dda ar y sianel ffilmiau. |
| Aled: | Carwyn? |
|
Carwyn: |
Ie, Aled. |
| Aled: | Dylet ti fynd i’r gwely cyn hanner awr wedi un. ... Mae hanner awr wedi un yn rhy hwyr! |
|
Carwyn: |
Ond ... |
|
Aled: |
Dim “Ond ...” |
| Carwyn: | O, dw i wedi blino ... a dw i’n teimlo’n ... |
|
Aled: |
NA! ... Dwyt ti ddim yn mynd ‘nôl i’r gwely. |
|
Carwyn: |
Na? |
|
Aled: |
Na! |
|
Carwyn: |
O! Ond ... |
| Aled: | Dim “Ond”. Dylet ti ymolchi ... dylet ti wisgo ... dylet ti gael brecwast ... a dylet ti ... |
| Carwyn: | Ymolchi? |
| Aled: | Ie, ymolchi. |
| Carwyn: | Gwisgo? |
| Aled: | Ie, gwisgo. |
| Carwyn: | Cael brecwast? |
| Aled: | Cael brecwast. |
| Carwyn: | Ond... |
| Aled: | Dim “Ond”. Cer i ymolchi ... |
| Aled: | ... mewn cawod oer. |
| Carwyn: | Mewn cawod oer?!?!?! ...
Mewn cawod oer?!?!?! ... Mewn cawod oer?!?!?! ... Dim peryg! |
| Aled: | Iawn - cer i ymolchi. |
| Carwyn: | Dw i’n mynd i’r gegin i wneud brecwast i ti |
| Carwyn: | Brecwast? |
| Aled: | Ie, brecwast. |
| Carwyn: | Cig moch ac wy ... a sosej ... a bara saim ... a ...? |
| Aled: | Na! |
| Carwyn: | Na? Ond ... |
| Aled: | Dim “Ond” – cer i ymolchi. |
| Carwyn: | Iawn – ar ôl ymolchi ... a brecwast ... beth wedyn?
Gwylio ffilm? Chwarae gêm cyfrifiadur? |
| Aled: | Gawn ni weld! |
| Carwyn: | O ... Hwyl fawr. |