Edrychwch ar y lluniau yma.
Llun 1
Llun 2
Llun 3
Llun 4
Enw’r artist ydy Jieun Park ac mae hi’n dod o Dde Korea.
Mae Jieun yn hoffi teithio ac mae hi’n hoffi peintio’r dinasoedd ble mae hi’n mynd.
Pan mae hi’n teithio mae hi’n teimlo teimladau gwahanol. Weithiau, mae hi’n teimlo’n gyffrous ac yn hapus. Weithiau, mae hi’n teimlo’n unig. Mae hi’n dangos y teimladau yma yn ei lluniau hi.
Weithiau, mae hi’n mynd i sefyll ar fryn uwchben y ddinas ac mae hi’n edrych i lawr dros y ddinas. Weithiau, mae hi’n teimlo’n unig iawn pan mae hi’n edrych i lawr dros yr adeiladau.
Sut mae hi’n gwneud llun
Yn gyntaf, mae hi’n gwneud marciau gydag inc ar y papur. Yna, mae hi’n peintio’r dinasoedd o fewn y marciau ac mae hi’n defnyddio lliwiau arbennig i ddangos sut mae hi’n teimlo.
Os hoffech chi weld mwy o luniau Jieun Park, cliciwch yma: http://www.parkg.co.kr/2015.html
Help
Geirfa | |||
dinas, dinasoedd | city, cities | bryn | hill |
teimlad, teimladau | feeling, feelings | uwchben | above |
unig | lonely | adeilad, adeiladau | building, buildings |
dangos | to show | o fewn | within |
sefyll | to stand |