Mae bywyd yn brysur iawn ac weithiau mae pobl o dan straen.
Ydych chi o dan straen?
Os ydych chi o dan straen, beth ddylech chi wneud?
Dyma gyngor diddorol:
Siarad
Mae siarad am y straen yn bwysig iawn. Beth am siarad gyda Dad neu Mam, gydag athro neu athrawes neu gyda ffrind? Mae siarad yn beth da – mae siarad yn gallu helpu!
Symud
Os ydych chi o dan straen, codwch, cerddwch, rhedwch, symudwch. Mae symud yn help mawr. Mae mynd allan am dro yn syniad ardderchog!
Gwneud chwaraeon
Mae beicio neu redeg neu chwarae gêm tu allan yn wych os ydych chi o dan straen. Rydych chi’n anghofio am y straen – ac yn cadw’n heini. Rydych chi’n teimlo’n well.
Dal peli baoding
Beth am ddal peli baoding yn eich llaw? Symudwch eich bysedd a bydd y peli’n symud. Cyn bo hir, byddwch chi’n teimlo’n well.
Chwythu balwnau
Os ydych chi’n chwythu balŵn, rhaid i chi anadlu’n ddwfn ac mae hyn yn help mawr i chi os ydych chi o dan straen. Felly, cofiwch gario balwnau yn eich bag neu yn eich poced!
Bwyta siocled
Mae llawer o bobl yn bwyta siocled pan maen nhw o dan straen – ond mae’n bwysig bwyta siocled tywyll achos mae gormod o siwgr yn gallu creu mwy o straen.
Beth ydych chi’n wneud os ydych chi o dan straen?
Geirfa | |||
o dan straen | stressed | cnoi | to chew |
straen | strain, pressure | gwm cnoi | chewing gum |
anghofio | to forget | arbenigwr | specialist |
teimlo’n well | to feel better | poeni | to worry |
dal | to hold | llai | less |
bysedd | fingers | tywyll | dark |
chwythu | to blow | anadl | breath |
anadlu | to breathe | creu | to create |
yn ddwfn | deeply |