Beth ydych chi’n feddwl o ...?

Bwyta ar y we

Bwyta ar y we

Beth ydych chi’n hoffi bwyta yn y nos?

Gyda pwy ydych chi’n hoffi bwyta?

Ble ydych chi’n bwyta yn y nos?

Am faint o amser ydych chi’n bwyta?

 

Os ydych chi wedi ateb, “Dw i’n hoffi bwyta salad gyda’r teulu yn y gegin. Dw i’n bwyta am hanner awr,” rydych chi’n wahanol iawn i’r Diva – neu Park Seo-Yeon! Mae hi’n bwyta swper mawr iawn – swper enfawr, gyda miloedd o bobl, ar y we, am dair neu bedair awr yn y nos.

 

Pwy?

Park Seo-Yeon – mae hi’n 34 oed ac mae hi’n byw yn Ne Korea.

 

Pam mae hi’n bwyta ar y we ?

Achos mae miloedd o bobl yn gwylio Park yn bwyta bob nos ac os ydyn nhw’n mwynhau, maen nhw’n rhoi arian iddi hi. Mae hi’n ennill tua £5,500 bob mis yn bwyta ar y we.

Beth sy’n digwydd?

Mae Park yn paratoi’r bwyd – llawer o fwyd. Yna mae hi’n bwyta yn y gegin. Mae hi’n ffilmio hyn ac mae’r ffilm yn mynd ar y we. Mae hi’n defnyddio microffon i siarad â’r gwylwyr.

 

Pam mae pobl yn gwylio Park?

Mae rhai pobl yn unig ac maen nhw eisiau cwmni pan maen nhw’n bwyta. Felly, maen nhw’n gwylio Park ac maen nhw’n bwyta swper “gyda hi”. Dydyn nhw ddim yn teimlo’n unig.  Maen nhw’n bwyta swper gyda “ffrind”.

 

Bwyta-ar-y-we-bodyimage.jpg

 

Hefyd, mae rhai pobl ar ddiet yn mwynhau gwylio. Maen nhw’n mwynhau’r bwyd ond dydyn nhw ddim yn bwyta’r calorïau.

 

Beth ydych chi’n feddwl?

Geiriau diddorol:

gwylio (to watch)             gwyliwr (viewer)               gwylwyr (viewers)

Help
Geirfa

y we

the internet

enfawr

huge

miloedd

thousands

os

if

iddi hi to her

paratoi

to prepare

hyn

this

cwmni

company

unig lonely

Beth ydy’r geiriau Cymraeg?

supper

to film

on a diet

calories