Ydych chi’n tynnu hunlun weithiau?
Pryd?
Pam?
Faint o amser mae’n gymryd? Sawl eiliad?
Edrychwch ar yr hunlun yma. Dyma’r hunlun cyntaf, efallai.
Robert Cornelius ydy enw’r dyn yn y llun. Roedd o’n sefyll yn yr iard tu ôl i siop y teulu yn Philadelphia i dynnu’r llun ym mis Hydref 1839. Roedd rhaid sefyll yn yr iard am sawl munud i dynnu’r llun.
Ar gefn y llun, mae’r geiriau: “The first light picture ever taken."
Newyddion ffantastig! Mae Lyn a fi’n mynd i’r gig yn y parc nos Sadwrn Awst 28. Mae bandiau mawr yn dod. Dw i’n edrych ymlaen.
Dim llawer o amser! Mae Lyn yn dod yma mewn pum munud ac rydyn ni’n mynd i’r gig. Dw i’n teimlo’n gyffrous iawn. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr. Hwyl fawr!
Siomedig! Roedd neithiwr yn siomedig iawn. Roedd y bandiau’n wych ond roedden ni’n sefyll tu ôl i giang o ferched tal, swnllyd ac roedden nhw’n tynnu hunluniau drwy’r amser. Roedden nhw’n troi rownd, gyda’u cefnau at y llwyfan ac yn ein hwynebu ni, ac yna roedden nhw’n tynnu hunluniau drwy’r nos. Roedden nhw’n sbwylio popeth!
hun (self) + llun (picture) = selfie
wyneb (face) wynebu (to face)
Geirfa | |
hunlun, hunluniau |
selfie, selfies |
tynnu |
to take |
cymryd |
to take |
eiliad, eiliadau |
second, seconds |
sawl |
several |
cefn, cefnau |
back, backs |
edrych ymlaen |
to look forward |
prynu |
to buy |
gobeithio |
hopefully |
siomedig |
disappointing |
sefyll | to stand |
llwyfan |
stage |
wynebu | to face |