Beth ydych chi’n feddwl o ...?

Siocled teg

Siocled teg

Preswylfa

Ffordd yr Afon

Aberystwyth

29 Medi 2015

Annwyl Ciwb,

 

Dw i wrth fy modd yn bwyta siocled – a dw i wrth fy modd yn bwyta un math o siocled yn arbennig – Divine – siocled Masnach Deg.

 

Pam dw i wrth fy modd yn bwyta’r siocled yma?

 

Wel, yn gyntaf, mae’r siocled yn dda iawn ac mae blasau gwahanol fel oren, mint, cnau a ffrwythau, siocled gwyn gyda mefus a hefyd siocled tywyll gyda mafon – dyna fy hoff siocled i a dweud y gwir.

 

Ond mae’r siocled yn dda am reswm arall hefyd.  I wneud siocled, rhaid cael ffa coco. Mae ffermwyr yn Asia, Affrica a De America’n tyfu’r ffa yma ac maen nhw’n gwerthu’r siocled i gwmnïau siocled. Mae rhai cwmnïau’n gwneud llawer o elw – maen nhw’n prynu’n ffa coco’n rhad ac yna maen nhw’n gwerthu’r siocled am bris mawr. Ond mae Masnach Deg yn prynu’r ffa oddi wrth y ffermwyr am bris teg iawn a hefyd maen nhw’n rhoi arian i helpu i wella’r ffermydd ac i helpu gyda phrosiectau fel adeiladu clinics, toiledau ac ysgolion. Felly, maen nhw’n gwneud gwaith da iawn.

 

Rydych chi’n gallu gweld logo Masnach Deg ar siocled arall hefyd – mae’n dangos bod y ffermwyr wedi cael pris teg am y ffa coco.

 

Felly, y tro nesaf rydych chi’n prynu siocled, chwiliwch am far o Divine neu siocled gyda logo Masnach Deg – achos mae prynu’r bar yna’n helpu ffermwr coco.

 

Yn gywir,

Lyn Thomas

Geirfa

Geirfa

Masnach Deg

Fair Trade

blas, blasau

flavour, flavours

cnau

nuts

mefus

strawberries

tywyll

dark

mafon

raspberries

a dweud y gwir

to tell the truth

rheswm reason

tyfu

to grow

gwerthu

 to sell
 elw  profit
 cwmnïau  companies
 rhad  cheap
 teg  fair

gwella

to improve

adeiladu

to build

y tro nesaf

next time