Rydych chi’n mynd i wylio ffilm. Dyma ychydig o help i chi, os ydych chi eisiau help.
HelpGeirfa | |
hoff |
favourite |
taffi |
toffee |
cnau | nuts |
math, mathau |
kind, kinds |
teg |
fair |
masnach deg | fair trade |
Llais: Beth ydy dy hoff siocled di?
Person 1: Cadbury’s Dairy Milk achos mae’n flasus iawn.
Mmm – blasus!
Person 2: Galaxy achos mae’n fendigedig.
Person 3: Dw i’n hoffi bwyta Mars achos dw i’n hoffi’r siocled a’r taffi a’r nougat.
Person 4: Mae’n well gen i Snickers achos dw i wrth fy modd yn bwyta cnau.
Person 5: Dw i’n hoffi Twix achos mae dau far mewn pecyn.
Person 6: Hm hm!
Person 5: Un i ti ... ac un i fi.
Person 6: Diolch yn fawr!
Person 7: Crunchie ydy fy hoff siocled i achos mae’r honeycomb yn gyffrous –mae’n byrstio yn fy ngheg i.
Llais: Oes, mae llawer o fathau gwahanol o siocled.
Ac wrth gwrs, mae’n bosib bwyta ...
... cacennau siocled ...
... pain au chocolat ... ...
... grawnfwyd siocled ...
... ac mae’n bosib yfed siocled hefyd ...
... a bwyta siocled ar fara ... neu wneud brechdanau siocled.
... a dyma greision siocled
a beth am bast dannedd siocled hefyd?
Mmmm?!?!?
Ond dewch yn ôl at y bariau siocled unwaith eto.
Edrychwch ar y mathau gwahanol o fariau siocled ...
Ond beth ydy hwn?
Bar siocled Divine.
Mae’r siocled yma’n arbennig iawn achos siocled Masnach Deg ydy e ...
... I wneud siocled, rhaid cael ffa coco. Mae ffermwyr yn Affrica, Asia a De America yn ffermio’r ffa coco ac yna maen nhw’n gwerthu’r ffa coco. Os ydych chi’n gweld bar siocled Divine, rydych chi’n gwybod bod y ffermwyr wedi cael pris teg am y ffa coco.
Ond edrychwch ar y logo yma ar y bariau yma ...
Dyma logo Masnach Deg eto. Felly, mae’r ffermwyr coco yma wedi cael pris teg am y ffa coco hefyd.
Gwych!
Mae’n well gen i ... – I prefer ...
Mae’n well gyda fi ... – I prefer ...