Haia, Ceri.
Wyt ti’n well? Mae’r giang yn dweud, “Helo!”.
Wel, rydyn ni yma ac rydyn ni’n cael hwyl. Rydyn ni’n aros mewn pabell fach (iawn!) ac mae’r dillad glân a’r bwyd mewn wheelie bins (glân!) tu allan i’r babell. Mae Dad a Mam yn cysgu mewn pabell arall achos maen nhw eisiau “cadw llygad arnon ni!”. Hy!
Mae’r bandiau’n ardderchog. Roedd Lily Allen yn wych neithiwr. Mae hi’n canu’n wych. Roedd Metallica’n gyffrous. Mae Ed Sheeran yn canu yfory. Mae e’n anhygoel.
Wela i di penwythnos nesa – cofia dy welis!
Sam
Ceri Williams
4 Yr Allt Fawr
Llandybïe
Sir Gaerfyrddin
SA100 6TT
Help
Geirfa |
yn well
|
better
|
yma
|
here
|
pabell
|
tent
|
cadw |
to keep |
llygad
|
eye |
arnon ni
|
on us
|
penwythnos |
weekend
|
cofia |
remember |
Beth ydy’r geiriau Saesneg?