Y Felin
Llanaber
Ceredigion
Annwyl Ciwb,
Mae llawer o bobl yn gwneud addunedau Blwyddyn Newydd ym mis Ionawr. Mae rhai pobl ifanc yn dweud, “Dw i’n mynd i ddarllen llyfr newydd bob mis.” Mae rhai’n dweud, “Bydda i’n treulio mwy o amser gyda ffrindiau neu’r teulu.” Mae rhai pobl eisiau cadw’n heini neu fwyta’n iach ac mae rhai pobl yn dweud, “Dw i’n mynd i stopio cweryla gyda fy mrawd a fy chwaer.” Mae rhai pobl yn meddwl, “Dw i eisiau bod yn ffasiynol – dw i’n mynd i brynu dillad ffasiynol eleni.”
Ond mae rhai pobl ifanc yn gwneud addunedau eraill. Mae un arolwg* yn dangos bod 9 allan o 10 person ifanc eisiau helpu pobl eraill. Mae rhai pobl ifanc yn teithio i Affrica neu i Asia i helpu mewn ysgolion neu ysbytai, er enghraifft. Dw i’n rhy ifanc i deithio i Affrica neu i Asia ond dw i’n mynd i helpu pobl eraill eleni. Unrhyw syniadau?
Gyda llaw, dw i wrth fy modd gyda chwaraeon a dw i’n dda am goginio. Dw i’n gallu gweithio’n dda gyda phobl hefyd – yn enwedig plant.
Diolch,
Lyn Evans
* Arolwg Raleigh International
Help| Geirfa | |
| addunedau | resolutions |
| treulio | to spend (time) |
| cadw’n heini | to keep fit |
| cweryla | to quarrel |
| bod | to be |
| arolwg | survey |
| dangos | to show |
| ysbytai | hospitals |
| er enghraifft | for example |
| rhy ifanc | too young |
| gyda llaw | by the way |