Ydych chi’n bwyta porc?
Beth am sosejis porc, cig moch, gamwn, ham, porc sur a melys, porc wedi ei rostio neu borc ar y barbeciw?
Wel, os ydych chi’n hoffi porc, dyma’r ŵyl i chi:
La Pourcailhade neu La Fête du Cochon - Gŵyl y Mochyn.
Gŵyl y Mochyn
Mae’r ŵyl yn digwydd yn yr Hen Farchnad yn Trie Sur Baïse, Hautes-Pyrénées, Ffrainc, ar yr ail ddydd Sul ym mis Awst bob blwyddyn.
Mae’n lle gwych i ddod os ydych chi’n hoffi moch – neu’n hoffi bwyta moch – achos mae digon o gig blasus yma. Bydd un gystadleuaeth bwyta arbennig iawn lle bydd dynion yn bwyta pwdin gwaed dros 1 metr o hyd! Pwy fydd yn ennill? Y person i fwyta’r mwya.
Ond bydd cystadlaethau doniol eraill hefyd fel cystadleuaeth bwyta sosejis (porc wrth gwrs) a chystadleuaeth gwisg ffansi – gwisgo fel mochyn.
Byddwch chi wrth eich bodd yma a byddwch chi’n chwerthin ... chwerthin ... chwerthin pan fyddwch chi’n gwylio’r gystadleuaeth o’r enw Cri de Cochon (Cri’r mochyn). Bydd pobl yn gwisgo i fyny fel moch ac yna byddan nhw’n gwneud sŵn mochyn. Byddan nhw’n gwichian ac yn rhochian fel mochyn.
Bydd cystadleuaeth i’r moch hefyd – ras y moch bach er enghraifft.
Os ydych chi’n hoffi diwrnod o hwyl ... os ydych chi’n mwynhau cael amser da a chwerthin, dewch i Ŵyl y Mochyn – byddwch chi wrth eich bodd yma (ond peidiwch dod os ydych chi’n llysieuydd neu os ydych chi ar ddiet!)
Geirfa | |
sur | sour |
ail | second |
pwdin gwaed | black pudding (lit. blood pudding) |
o hyd | in length |
ennill | to win |
mwya | most |
gwichian | to squeal |
rhochian | to grunt |
moch bach | piglets |
er enghraifft | for example |
llysieuydd | vegetarian |