Edrych ymlaen ...

Blwyddyn o chwaraeon

Blwyddyn o chwaraeon

Bydd llawer o chwaraeon cyffrous yn 2016.

 

Pa gystadleuaeth chwaraeon fydd yn digwydd yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2016?

Ateb

Bydd gemau pêl-droed Euro 2016.

euro.jpg


 

Ble fydd y gystadleuaeth?

Ateb

Bydd y gystadleuaeth yn Ffrainc.

 


 

Pwy fydd yn ennill?

Pwy?

Beth ydych chi’n feddwl?

?.jpg


 

Pa gystadleuaeth chwaraeon fydd yn digwydd yn ystod mis Awst 2016?

Ateb

Bydd y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro.

 


 

Pa gystadleuaeth chwaraeon fydd yn digwydd yn ystod mis Medi 2016?

Ateb

Bydd y Gemau Paralympaidd yn ystod mis Medi.

 


 

Pa gystadleuaeth chwaraeon fydd yn digwydd yng Nghymru yn ystod yr haf?

Edrychwch ar y sioe sleidiau.

 

Ble bydd y Gemau yma’n digwydd?           

Ateb

Bydd y Gemau’n digwydd yn Llanwrtyd, Powys.

Dyma’r World Alternative Games.


 

Pryd byddan nhw’n digwydd?

Ateb

Yn ystod yr haf.

Maen nhw’n digwydd bob dwy flynedd.


Gemau 2014

Yn 2014, roedd y cystadlaethau yma yn y World Alternative Games:

  • marathon dyn yn erbyn ceffyl
  • rasio ar feiciau penny farthing
  • taflu wyau
  • cario gwraig
  • llusgo gŵr
  • rasio i lawr mynydd
  • rasio araf ar feic
  • Pooh sticks
  • ras Zombies
  • ras malwod
  • reslo grefi
  • snorclo mewn cors
  • beicio mynydd mewn cors
  • triathlon mewn cors
  • hoci dan ddŵr

- a llawer mwy!

Beth fydd yn digwydd eleni?

Chwiliwch am wybodaeth.

Help
Geirfa  
cystadleuaeth competition
yn ystod during
bob dwy flynedd every two years
taflu to throw
gwraig wife
llusgo to drag 
gŵr husband 
malwod snails 
reslo to wrestle, wrestling 
cors bog